YN 50 oed, cymerodd Eleanor Burnham ei sedd yng Nghynulliad Cymru, ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Doedd hi ddim wedi ystyried gyrfa wleidyddol tan ychydig flynyddoedd ynghynt, a doedd hi ddim wedi cael llawer o amser i baratoi am ei gyfra newydd chwaith.
Yn ystod ei degawd yn y Cynulliad (pan oedd 50% o’r Aelodau Cynulliad yn fenywod) bu iddi weithio er budd etholwyr Rhanbarth Gogledd Cymru ar bwyllgorau megis Addysg, Cydraddoldeb, Materion Amgylcheddol a Thrafnidiaeth.
Ond doedd ei chyfnod yno ddim yn ddi-ffwdan – roedd anghydweld a thensiwn, hyd yn oed ymysg aelodau ei phlaid ei hun.
Dyma hunangofiant menyw sydd wedi ailddiffinio’i hun ar ôl cyfnod o fagu plant a bod yn ‘wraig gorfforaethol’ oedd yn cefnogi ei gŵr. Yn y gyfrol, mae hi’n trafod (ymysg pethau eraill):
· Ei phlentyndod gwledig yn ardal Cynwyd
· Y profiad o fynd i ysgol breswyl yn eneth ifanc
· Dioddef iselder ôl-eni a’r diffyg cefnogaeth broffesiynol i’r cyflwr yn y 1980au
· Heriau gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol
· Ei diddordeb mewn canu
· Bod yn Ynad Heddwch
· Wynebu agweddau negyddol ynglŷn â bod yn fenyw hŷn yn y farchnad waith
· Ei hymgyrchu gwleidyddol
· Gwaith Aelod Cynulliad ym mlynyddoedd cynnar Datganoli, a’r dasg o geisio cenhadu dros waith y corff yng ngogledd Cymru
· Y gwahaniaeth barn o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol
· Bod mewn cynhadledd yn Awstralia pan ddigwyddodd trychineb 9/11
· Gwirfoddoli i gyrff a sefydliadau gan gynnwys Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru
· Ei barn gref am sawl agwedd o wleidyddiaeth Cymru, hyd at y presennol!
Mae’r gyfrol ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£8.99), ar Gwales.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.