MAE’R Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Carys Garnon James, sy’n byw yn yr Almaen, fydd Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod y Garreg Las eleni.
Yn enedigol o Landudoch, mae Carys wedi byw mewn pentref gwledig yn Bafaria ers 40 mlynedd. Mae hi’n briod ag Almaenwr, ac mae ganddynt fab, Garnon Ioan, sydd wedi ei fagu yn ddwyieithog yn Gymraeg ac Almaeneg. Bellach wedi ymddeol, treuliodd flynyddoedd yn gweithio gyda chwmni rhyngwladol ar gyrion Munich.
Ar ôl dewis Almaeneg fel pwnc Lefel A yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, aeth ymlaen i astudio’r iaith yn y brifysgol. Wedi graddio, gweithiodd gyda’r BBC yng Nghaerdydd ac Abertawe ar raglenni Radio Cymru cyn symud i’r adran gyflwyno.
Yn 1984, cyfarfu â’i darpar ŵr, Paul, tra ar wyliau. Arweiniodd hynny at benderfyniad i adael y BBC a Chymru yn 1986 er mwyn dechrau pennod newydd yn ei bywyd a dilyn gyrfa yn yr Almaen.
Canu yw prif ddiddordeb Carys, mae’n aelod o ddau gôr – côr merched traddodiadol Bafaraidd a chôr yr eglwys leol. Ymhlith ei diddordebau eraill mae dysgu ieithoedd, teithio, golff, garddio a meddygaeth amgen. Mae Carys yn ymweld â Llandudoch yn gyson ac yn cadw cysylltiad agos â’i theulu, ei ffrindiau ac Eglwys Blaenwaun, Llandudoch, lle mae hi’n parhau i fod yn aelod.
Bydd yn annerch y Pafiliwn yn Eisteddfod y Garreg Las am 15:15 bnawn Iau 6 Awst.
Cynhelir yr Eisteddfod eleni ym mhentref Llantwd o 1 i 8 o Awst. Mae rhagor o wybodaeth yn www.eisteddfod.cymru.

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.