MAE’R grŵp Ymylon wedi rhyddhau eu senl gyntaf, cân wedi’i hysbrydoli gan gerdd Gillian Clarke.
Ffurfiwyd Ymylon er mwyn cynnig llwyfan i ganeuon y gitarydd a’r canwr JJ Lewis-Roberts.
Daw ‘JJ’ o Benrhyndeudraeth ond bu am rai blynyddoedd yn astudio ‘Cerddoriaeth Boblogaidd’ yn Leeds Conservatoire.
Mae’n gweithio erbyn hyn yn faes marchnata digidol, ac yn falch iawn o gael hyrwyddo ei dreftadaeth Gymreig.
Bu cefnogi gwaith Maddy Elliott fel gitarydd sesiwn yn sbardun i ddatblygu deunydd ei hun.

Ysbrydolwyd y gân wrth i JJ ddarllen y gerdd ‘Catrin’ gan Gillian Clarke.
“Mae Clarke yn ysgrifennu am ei merch,” meddai JJ, “ond mae'r gân yn ddigon amwys, yn fy marn i, fel y gallai fod am berthynas ramantus neu am gysylltiadau teuluol, gyda'r rhaff yn rhyw fath o rym sy'n dod â dau berson at ei gilydd er gwaethaf eu trafferthion.
“Mae ‘Byth yn rhydd ond byth ar goll, Tynna fi atat ond gad i mi fod’ yn cwmpasu cysyniad y gân.
“Y teimladau gwrthgyferbyniol y gallwch chi eu profi gyda rhywun rydych chi ei angen ond nad ydych chi o reidrwydd yn ei hoffi drwy'r amser!”
Un o brif nodweddion Ymylon yw’r defnydd o ddwy ffidil. Clywir elfennau gwerinol i rai o’r caneuon, ond hefyd ystod eang o arddulliau eraill sy’n arwain i ddefnydd cyffrous ac annisgwyl o’r ddwy ffidil.
Siwan Evans a Bettina Isaac yw’r ffidlwyr. Mae Siwan yn gyn cynhyrchydd i Recordiau Sain, ac mae Bettina yn athrawes beripatetig.

Rhys Evans yw’r drymar sy’n gweithio’n proffesiynol a hefyd yn aelod o ‘I Fight Lions’.
Cyfarwyddwr cerdd yw’r gitarydd bâs, Emyr Rhys sy’n rhedeg Stiwdio Aran yn y Groeslon, lle recordiwyd traciau Ymylon.
Mae cefndiroedd amrywiol aelodau’r band yn arwain i drefniadau sy’n llawn gyfuniadau anarferol ac eclectig.
Fel rhan o’r set fyw mae’r band hefyd yn chwarae rhai o ganeuon mwyaf eiconig cerddoriaeth pop Cymraeg, gan eu ail dychmygu a’i diweddaru trwy ddefnyddio hofferyniaeth amgen.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.