MAE Aberystwyth yn prysur ddod yn adnabyddus fel ardal beryglus ym myd llenyddiaeth Gymraeg.
Yr wythnos hon cyhoeddir Ar Drywydd Llofrudd, nofel dditectif gyfoes a thywyll wedi’i lleoli yn nhref fwyaf noir Cymru.
Yn y nofel mae yna gorff yn cael ei ddarganfod yn y twyni ym Mhenbre – achos sy’n dod i sylw dau dditectif, Taliesin ac MJ, wrth iddynt fynd ar drywydd llofrudd.
Alun Davies yw’r awdur, a dyma’i nofel gyntaf.
Cafodd Alun ei eni a’i fagu yn Aberystwyth cyn symud i Lundain am 10 mlynedd, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd.
“Petai’n rhaid i fi grynhoi’r nofel mewn tri gair, bydden i’n dewis gafaelgar, tywyll a chyfrwys,” meddai Alun Davies, cyn ychwanegu: “Roeddwn i’n bendant o’r cychwyn taw yn Aberystwyth y byddai’r nofel yn cael ei lleoli. Roedd hyn yn rhannol gan taw yno y cefais i fy ngeni a’m magu ac felly rwy’n gyfarwydd iawn â’r dref, ond hefyd am fod yna elfen o noir yn gysylltiedig â’r ardal a’i thirlun, sy’n cael ei adlewyrchu mewn llyfrau awduron fel Geraint Evans, a chyfresi teledu fel Y Gwyll.”
Mae’r genre Scandi-noir yn boblogaidd iawn gyda darllenwyr a gwylwyr yn fyd-eang erbyn hyn.
Braf yw gweld twf yn y genre yn yr iaith Gymraeg yn ogystal, gyda 2018 yn flwyddyn a hanner ar gyfer nofelau ditectif Cymraeg wrth i bobl fwynhau nofelau gan Geraint Evans, Jon Gower a Llwyd Owen.
Mae’r awdur yn gobeithio ehangu’r nofel yn gyfres o lyfrau.
Darllenwch yr stori yn llawn yn y Cambrian News dydd Mercher





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.