Enillodd Rhiannon Ifans y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am nofel wedi’i gosod yn Stuttgart, Yr Almaen.

Meddai’r awdures, ar ôl y seremoni, ei bod yn awyddus iawn i ddangos diwylliant Ewrop.

Mae Ingrid yn cyfleu naws yr Almaen i’r dim a dinas Stuttgart yn gymeriad cryf o fewn y stori.

Meddai Rhiannon: “Mae gan yr Almaen wleidyddiaeth fawr, ond mae ganddi hefyd ddiwylliant mawr, ac yn anffodus ’dan ni’n mynd i gau’n hunain oddi wrth rhai o’r pethau yma os ’dan ni’n mynd i gyfeiriad penodol.”

Mae Ingrid yn dilyn stori’r prif gymeriad, sef Ingrid, menyw llawn hwyl a bywyd, wrth iddi ddechrau dioddef o salwch meddwl a’r effaith creulon mae’r salwch yn ei gael ar y teulu cyfan.

Gwelwn ei bywyd drwy ei llygaid hi, ei g?r, ei mab a’i merch yng nghyfraith.

Mae’n stori ingol, ond eto’n llawn ffraethineb. Mae adran gyntaf y gyfrol, drwy lygaid Ingrid, yn annibynadwy oherwydd ei salwch, ac yn gofyn i’r darllenydd gwestiynu dilysrwydd y naratif.

Beirniaid y Fedal eleni oedd y bardd Mererid Hopwood, yr awdur Alun Cob a’r awdur, cyfieithydd a golygydd Aled Islwyn.

Testun y gystadleuaeth oedd ‘Cylchoedd’ ac fe ddaeth Ingrid i’r brig o blith 17 ymgeisydd arall, gyda’r beirniad yn disgrifio’r gyfrol fel “nofel grefftus, raenus, wreiddiol.”

Darllenwch yr stori yn llawn yn y Cambrian News dydd Mercher