MAE’R cyfnod ym mis Ionawr yn un ble gwelwn yr arferiad o’r Fari Lwyd yn digwydd mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Yn y pymtheg mlynedd diwethaf mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol yn Ninas Mawddwy.
Cafwyd cyflwyniad am y Fari gan Mair Tomos Ifans yn Nhy Siamas Dolgellau am yr ail dro – gan adrodd ar gefndir y traddodiad ac egluro beth oedd y prif nodweddion. Daeth a phenglog ceffyl gyda hi gan ddangos sut roedd y Fari yn cael ei addurno. Cafwyd cymorth Arfon Hughes a ddaeth a Fari Lwyd Dinas Mawddwy yn ogystal – felly dwy Fari ar un noson!
Wedyn eglurodd yr arfer o sgwennu pennillion – y merched a’r dynion – a gosododd y dasg I’r gynulleidfa sgwennu ambell I bennill ar y noson.
Cafwyd lot o sbort yn gwneud hynny, gyda sawl un yn Nhy Siamas yn destun y pennillion! Er I’r merched lwyddo I gadw’r Fari allan am gyfnod hir, yn y diwedd gwahoddwyd y dynion mewn I’r Bar I ymuno.
Cafwyd noson llawn hwyl, gan ddysgu mwy am y traddodiad.
Fydd Y Fari Lwyd yn y Brigands, y Buckley Arms ac y Llew Coch yn Dinas Mawddwy Nos Sadwrn 16 Ionawr.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.