Bydd cyfle i fwynhau Noson Siopa Nadolig a hwyl ac awyrgylch yr Ŵyl wrth i chi siopa yn Llanbed wythnos yma.

Mae’r strydoedd wedi eu goleuo’n hardd i’ch croesawu i ymweld gyda’r amrywiaeth eang o siopau lleol sydd yn gwerthu ystod eang o eitemau i’w rhoi’n anrhegion Nadolig.

Bydd y Stryd Fawr ar gau i gerbydau a bydd nifer o stondinau stryd yn gwerthu pob math o gynnyrch ac eitemau a hynny gobeithio yn lleihau eich rhestr siopa Nadolig!

Trefnwyd adloniant Nadoligaidd fydd yn cynnwys canu gan Charlotte Saunders, carolau gan Gôr Meibion Cwmann, cerddoriaeth gan grŵp iwcalili a phaentio wyneb am ddim yn Y Stiwdio Brint.

Bydd Siôn Corn yn ymweld â’r dref a bydd cyfle i’w gyfarfod yn Yr Hedyn Mwstard ar Stryd y Coleg o 5yp ymlaen. Agorir y noson am 4.45yp gan Heulwen Beattie, cadeirydd Siambr Fasnach Llanbed a’r Cyng Rhys Bebb Jones, maer Llanbed.

Daw gwesteion arbennig i oleuo’r goeden Nadolig ar Sgwâr Harford sef dau o dîm y gyfres flodau poblogaidd Y ’Sgubor Flodau ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C.

Edrychwn ymlaen at gael cwmni Gabrielle Davies a Donald Morgan fydd pwyso’r botwm yn goleuo’r goeden am 4.55yp dydd Iau, 30 Tachwedd. Trefnwyd Helfa Drysor a Raffl gyda gwobrau da i’w hennill.

Diolch yn fawr i’r canlynol am gyfrannu tuag at y gwobrau, am osod yr holl oleuadau ac am drefnu’r Noson Siopa Nadolig: Bargain Box, Bwydydd Castell Howell, Canolfan Addurno AAA, Canolfan Arddio Robert, Carpedi Gwyn Lewis, Conti’s, Creative Cove, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, D L Williams, Dylan Dudley (Trydanwyr), Fferyllfa Adrian Thomas, Get Connected, Gorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, Gwasanaeth Coed Llanbed, Gwilym Price, ei Fab a’i Ferched, Hedyn Mwstard, LAS Recycling, Lois Designs, Llew Du, Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan, Stiwdio Brint, Tanygroes Rosettes, Teify Forge, W D Lewis, Watson and Pratt’s.

Mae croeso arbennig i chi yn Llanbed y Nadolig hwn. Dewch i fwynhau’r hwyl a naws yr Ŵyl nos Iau, 30 Tachwedd wrth siopa yn nhref groesawgar, liwgar a hyfryd Llanbed.