Madam,

Bydd Cyngor Ceredigion yn penderfynu ar ddyfodol Ysgol Llangynfelyn yr wythnos hon. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor i beidio cadw at yr arfer o gau ysgolion yn groes i ddymuniadau’r gymuned leol a heb ystyried yn llawn effaith gwneud hynny ar addysg Gymraeg a chymunedau.

Er mai teuluoedd wedi symud i’r ardal yw nifer o rieni plant Ysgol Llangynfelyn maen nhw wedi dod yn rhan o’r gymuned, a’r ysgol yw eu prif gysylltiad â Chymreictod.Wrth gau’r ysgol cymerir yn ganiataol y bydd y plant yn mynd at ysgol Tal-y-bont, ond y gwir yw y bydd nifer o rieni’n mynd â’u plant i ysgol yn Aberystwyth, oherwydd cyfleustra gwaith, neu yn addysgu plant adref. Bydd hyn, nid yn unig yn golygu na fydd rhai plant yn cael addysg Gymraeg bellach, ond hefyd yn chwalu’r gymuned.Byddai cau yr ysgol yn cael effaith niweidiol difrifol ar addysg Gymraeg yn yr ardal, ac mae hyn yn eironig gan mai un o fwriadau’r adroddiad gwreiddiol, ddaeth i’r casgliad mai cau yr ysgol fyddai orau, oedd argymell sut i gryfhau addysg Gymraeg.

Yn gywir

Bethan Williams,Swyddog Maes Dyfed

Cymdeithas yr Iaith.