MAE tim o peldroedwyr gorau yn gogledd Cymru wedi cystadlu yn erbyn chwaraewyr gorau yn Prydain yn stadiwm pel-droed Caerlyr.
Ar ddydd Llun y 21ain o Fai teithiodd ‘Pencampwyr Gogledd Cymru’o’r ardal Bala i Gaerlyr yn barod i gystadlu yn y gystadleuaeth mawreddog Premier League Primary Stars, yn erbyn goreuon Lloegr.
Ar ôl cael amser i ymlacio yn yr Hilton, daeth yn amser i deithio i stadiwm clwb pêl-droed Caerlyr, sef y King Power Stadium. Dyma beth oedd profiad unigryw a bythgofiadwy ac achlysur anhygoel i’r merched.
Roedd yna benderfyniad ac awch ym mherfformiadau y merched, gyda phob un yn ysu i wneud argraff a chwarae i’r safon uchaf posib.
Chwaraeodd y tîm yn dda iawn yn y gêm agoriadol yn erbyn Ysgol Thomlinson (y tîm aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth), ond colli yn greulon o 1-0 gyda 30 eiliad yn weddill oedd eu hanes.
Gwnaethant ymateb yn wych i’r siom, gan guro tîm cryf Ysgol Upton Juniors o 1-0 yn yr ail gêm. Roedd y fuddugoliaeth honno yn hynod o allweddol a roedd cynnydd amlwg yn hyder y tîm wrth iddynt ennill y ddwy gêm nesaf 4-0 a 3-1, i sicrhau eu lle yn y rownd cyn-derfynol yn erbyn Ysgol St. James.
Dyma beth oedd gêm egnïol a chyffrous iawn a chawsom y dechreuad gorau gyda Aiesha yn sgorio gôl o safon gyda foli fendigedig i gefn y rhwyd. Ond sgoriodd St James ddwy gôl cyflym i fynd ar y blaen. Gwrthododd y tîm roi fyny gan barhau i wthio a brwydro am yr 2ail gôl, gan greu llawer o hanner cyfleon ond, yn rhwystiedig i bawb, roeddynt yn cael eu gwastraffu.
Er yr holl ymdrech, gorffenodd y gêm 2-1. Canlyniad anheg a chreulon, ond rhaid canmol St James am gymeryd eu cyfleon. Cawsom newyddion bositif ac arbennig ar ddiwedd y gystadleuaeth wrth i Saran Jones orffen ar frig y siart prif sgoriwr gyda 6 gôl. Llwyddiant ysgubol i Saran a chlod mawr i’r tîm hefyd.
Felly daeth y profiad anhygoel i ben a daeth y tîm yn gydradd 3ydd mewn cystadleuaeth adnabyddus ym Mhrydain. Gall pob un chwaraewraig deimlo yn hynod o falch ou hunain a bydd y profiad yn aros gyda hwynt am byth.
Aelodau’r tim oedd: Lilley Williams (capten), Elin Jones, Mari Elen, Lliwen Davies, Efa Thorp, Saran Jones, Cara Jones ac Aiesha Woods.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.