Mae’r Cambrian News wedi penodi ein gohebydd Newyddion Cymunedol cyntaf sy’n siarad Cymraeg.

Symudodd Alex Bowen o Lanystumdwy i Aberystwyth yn ddiweddar ac mae’n edrych ymlaen at wneud cysylltiadau â darllenwyr yn eu cymunedau.

Dywedodd y golygydd Mick O’Reilly: “Mae hon yn bennod newydd gyffrous. Rydym wedi ymrwymo i wasanaethu ein cymunedau ac i adrodd eich straeon.”

Sut mae eich grŵp, clwb neu sefydliad wedi bod yn cadw’n brysur? Dywedwch wrthym am eich digwyddiadau a llwyddiannau. Cysylltwch ag Alex heddiw.

• I ddweud wrthym am eich newyddion cymunedol yn y Gymraeg neu yn Saesneg cysylltwch ag Alex: [email protected]