Merched y Wawr Deudraeth

TAIR beirniad eisteddfodol, llond trol o gystadlu brwd cangen Deudraeth o Ferched y Wawr, dyna i chi rysáit am noson wych!Gwahoddwyd Carol Madogwen, Nia Byrdir a Glenda Llyn i feirniadu’r Eisteddfod ffûg ddiwedd Ebrill.Cyflawnodd y dair eu gwaith yn ardderchog, gan ychwanegu’n fawr at yr hwyl a chwerthin.Roedd oddeutu 18 o gystadlaethau yn amrywio o ganu ac adrodd, dan 5, dweud jôcs, canu deuawd, coginio, creu cerdyn pen-blwydd i ddawnsio efo’r hwla hwp!Cyn restru’r enillwyr mae’n bwysig cofio rhai o sêr y noson.Wnawn ni ddim anghofio perfformiad Gwenda Paul yn trin yr hwla hwp heb sôn am ei dawn dweud jôcs.Mae’n amlwg fod Eirwen Langdown yn dal i gofio ei thablau yn ardderchog a wyddoch chi fod Nerys Roberts wedi chwysu yn oriau mân y bore yn creu’r limerig buddugol.Synnwn i fawr fod biliau trydan yn Llanfrothen yn uwch na’r arfer yn ôl yr holl gystadlu ac ennill yn yr adran coginio.A bonws i aelodau’r gangen oedd cael blasu ffrwyth llafur y cystadleuthau coginio ‘ma efo paned ar ddiwedd y noson.Dyma enwau’r enillwyr: Adrodd dan 5: Helen Williams; Canu dan 5, cyd: Helen Williams a Margaret Roberts; Unawd Canu: Eirwen Langdown; Dweud Jôc: Gwenda Paul; Hwla Hwp: Gwenda Paul; Deuawd: Nancy Hughes a Helen Williams; Pedwarawd: Margaret Roberts, Catherine Jones, Gwenno Roberts a Nerys Roberts; Adrodd Tabl Syms yn Gyflym: Eirwen Langdown; Limerig: Nerys Roberts; Creu brawddeg o Merched y Wawr: Eirwen Langdown; Coginio chwe sgon: Marian Williams; Gweu tegan meddal, cyd: Nerys Roberts a Menna Jones; Chwech cacen wedi addurno: Gwen Jones; Bisgedi: Gwen Jones; Darn heb ei atalnodi: Gwenda Paul; Sgwigl: Helen Williams.Mis nesa ar nos Lun, 16 Mai, rydym yn ymuno efo Cymdeithas Capel y Porth i fwynhau noson o ddramâu. Noson arall i aelodau’r gangen fwynhau yn sicr.