Merched y Wawr
CYCHWYNNODD Gwyneth cyfarfod mis Mawrth gyda nodyn trist iawn, sef cydymdeimlo ag Eunice ar golli ei chwaer yng nghyfraith, sef Janet Hughes, oedd yn aelod triw iawn i’r gangen am flynyddoedd.Hefyd cydymdeimlwyd â Janet Wyn oedd wedi colli ei chyfnither yn 59 oed ar ôl cystudd hir. Aeth ymlaen wedyn i groesawu’r gwr gwadd, sef Ioan Rees, Y Dyn Haearn.Doedd neb yn siwr iawn beth i’w ddisgwyl efo teitl fel yna, ond cawsom noson hynod o ddifyr a diddorol. Sôn am gystadlu mewn triathlon hynod o anodd, sef yr Ironman wnaeth Ioan a gychwynnodd drwy holi faint o filltiroedd oeddem ni yn dybio oedd hyd y gwahanol rannau o’r gystadleuaeth. Roedd yn cymryd naw mis i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth gan ymarfer 20 awr yr wythnos, sef dwy awr y diwrnod yn ystod yr wythnos a 10 awr ar y penwythnos, gan gadw cofnod o bopeth mewn llyfr bach. Un o’r pethau wnaeth y noson mor ddiddorol oedd yr holl arteffactau oedd Ioan wedi ei ddod efo fo i’w dangos i ni a’r storïau bach difyr oedd ganddo i fynd efo nhw. Gan ein bod hefyd yn dathlu Gwyl Dewi cawsom baned, cacen gri a bara brith i orffen y noson gan Meri a Gwen. Iona roddodd y raffl a Lynn enillodd o. Diolchodd Janet Wyn i Ioan am noson mor ddiddorol, gan ddweud ei bod yn disgwyl gweld pawb yn dechrau cerdded, nofio a beicio o gwmpas Pistyll ar ôl i Ioan ein hysbrydoli.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.