Merched y Wawr
TRIP gawsom ar noson hyfryd ym mis Mai, rhyw ychydig filltiroedd i lawr y ffordd, i fferm Llwyndyrus, a chawsom groeso cynnes iawn yno gan Kit. Cychwynodd efo sgwrs am gefndir y busnes Cryms a’r bythynnod i ymwel-wyr, ac i ddechrau aeth a ni yn ol 33 mlynedd pan briododd a dod i fyw o’r de i Lwyndyrus a chael gwaith mewn canolfan arddio gyntaf, wedyn yn mynd o amgylch ffermydd yn gwerthu nwyddau, ac yna fel darlithydd yng Nglynllifon lle roedd Sioned yn fyfyrwraig yno. Wedyn roedd angen rhywun ar y fferm i helpu efo’r defaid a chafodd Sioned y swydd ac mae’n dal i’w helpu hyd heddiw. Yn 1994 ganwyd Jim ac felly gadawodd Kit Glynllifon a dechrau ail wneud tai i ymwelwyr. Erbyn 2013 roedd spa twb poeth a sauna yno hefyd gan fod rhai pobl eisiau dod am y diwrnod yn unig ac felly codwyd uned efo ystafell therapi ynddo. Yna dywedodd y Bwrdd Croeso fod angen pecyn croeso (Welcome pack) i’r ymwelwyr a dyma Sioned yn coginio bisgedi brau i’r pecyn ac roeddent yn flasus iawn a dyna gychwyn y busnes Cryms. Lansiwyd y busnes ddechrau Rhagfyr yn y Ffair Aeaf a bu bron iddynt a gwerthu allan yno, ond yn syth wedyn roedd Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion a bo raid coginio llawer er-byn honno ond fe werthwyd y cyfan ar y dydd cyntaf ac felly bu raid coginio drwy’r nos er mwyn cael cyflenwad erbyn y dydd canlynol. A dyna sut y cychwynodd y busnes sydd yn mynd o nerth i nerth. Ar ol hynny cawsom bryd o fwyd bendigedig ac yna mynd o amgylch y bythynnod a gweld y twb poeth a’r ystafelloedd therapi ac roedd rhai yn pitio nad oeddent wedi dod a’u gwisgoedd nofio efo nhw! Nol wedyn ar ol bod yn busnesu am bwdin bendigedig. Rhoddwyd y raffl gan Lyn a Kit, a Mrs Thomas a Janet Wyn





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.