MAE man wedi’i neilltuo ar wal yng nghei Y Tywysog Siarl, Aberteifi, i osod plac arbennig i nodi’r gefeillio rhwng y dre â Threvelin, tre fechan yng nghesail mynyddoedd uchel yr Andes ym Mhatagonia.
Cyflwynir y plac yn rhodd gan faer a maeres Aberteifi, John Adams-Lewis a’i wraig Morina, ar ran Pwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin, Patagonia.
Ffurfiwyd y gefeillio rhwng y ddwy dre nôl yn 2005, ond dyma fydd y tro cyntaf i blac dwyieithog, gyda geiriau Cymraeg a Sbaeneg, i nodi’n gyhoeddus yn Aberteifi y berthynas barhaol sy’n bodoli rhyngddynt. Y mae un eisoes wedi’i ddadorchuddio yn Nhrevelin.
Mr Adams-Lewis, ac yntau ar ei ail dymor fel Maer Aberteifi bryd hynny, a arwyddodd y ddogfen gefeillio yn swyddogol dair blynedd ar ddeg yn ôl.
“Rwy’n cofio’n iawn”, medd John, sy’n Faer am y pedwerydd tro eleni, “y prynhawn hwnnw pan dderbyniais alwad ffôn gan Arturo Lowndes, ffrind i mi ym Mhatagonia, yn gofyn a fyddai gan Aberteifi ddiddordeb mewn gefeillio â Threvelin.
"Rhoddes i’r cynnig o flaen cyngor y dre a chytunwyd ar hynny yn galonnog. Cefais y fraint o arwyddo’r ddogfen yn gyfreithiol yn Nhrevelin ar 25 Tachwedd, 2005.
"Dwy flynedd yn ddiweddarach estynnodd cyngor y dre wahoddiad i Faer a Maeres Trevelin, Dr Carlos Mantegna a’i wraig, i ymweld ag Aberteifi, pryd cawson nhw groeso mawr yma.
“Gan wybod fod gen i ddiddordeb mewn hedfan”, medd John, (mae wedi adeiladu dwy awyren ei hun ac mae’n eu hedfan yn aml) ‘fe drefnodd Carlos drip i fi a Morina mewn hofrennydd yn perthyn i fyddin ei wlad, a buom yn treulio awr ddiddorol yn hedfan dros yr Andes, Cwm Hyfryd, y paith, a hyd yn oed dros y ffin yn Chile. Buodd e’n brofiad diddorol iawn.”
Am y stori lawn, gwelwch Cambrian News yr wythnos yma, ar gael yn siopau nawr






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.