Ar ddydd Gwener, 24 Ionawr, bydd plant ysgolion lleol yn cymryd rhan yn Diwrnod Hoffi’r Parêd drwy wisgo unrhyw beth sy’n gysylltedig â Chymru a’i diwyllaint, crys pêl droed neu rygbi, neu liwiau Cymru, a chyfrannu tuag at Parêd Dewi Sant Pwllheli.
Dywedodd Mared Llywelyn, aelod o bwyllgor trefnu’r parêd: “Drwy gymryd rhan yn Niwrnod Hoffi’r Parêd bydd yn creu bwrlwm ymysg plant yr ardal yn arwain fyny at y parêd ei hun ar 28 Chwefror. Braf yw gweld cyffro’r plant a diolch i’r ysgolion am gefnogi.”
Cynhelir ddathliad o’n Cymreictod am 10.30yb ym maes parcio’r cyngor ar Ffordd y Cob, ddydd Sadwrn, 29 Chwefror. Cychwyn yn brydlon am 11yb, gan orymdeithio trwy’r dref cyn gorffen ar y maes.
Fydd yn ddigon o sioe hefyd; bydd Dewi Pws yn ei ôl i ganu’r chwip o diwn ‘Cân y Parêd’ a bydd Band Cambria yno hefyd.
Eleni, gobeithio y byddwn yn denu mwy o glybiau a mudiadau i gymryd rhan – corau, pwyllgorau lleol o bob math, ysgolion cynradd, uwchradd a thrydyddol.
Thema’r parêd eleni fydd ‘Cymru 2020’ a dyma fydd thema cystadleuaeth y ffenest siop â drefnir gan Hunaniaith.
Mae’r trefnwyr yn chwilio am bobl i wirfoddoli fel stiwardiaid.
Cysylltwch â Victor Jones, Pwllheli ar 07500 455742 am wybodaeth.
Cofiwch hefyd os ydych eisiau dod â hen beiriannau i’w harddangos yn y parêd gallwch roi gwybod am hyn i Victor.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.