Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 13 Mawrth, 11yb, Ysgol Sul; 2yp, Ymuno â Charmel am yr oedfa Undebol.Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul 13 Mawrth: 2yp, Lyndon Lloyd, Oedfa Undebol.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 13 March, 2pm, Holy Eucharist at St Mary’s Church.

Whist drive

A WHIST drive to raise money for the Wales Air Ambulance will be held at Pantyfedwen Hall on Wednesday, 9 March, at 8pm. A warm welcome to all.

Rhydfendigaid

BU PLANT Ysgol Sul Rhydfendigaid yn brysur iawn dros gyfnod Gwyl Ddewi. Cafwyd gwahoddiad i ddiddanu yng Nghawl a Chân yr Ysgol Feithrin a Ti a Fi yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Sadwrn 27 Chwefror. Er fod yna nifer yn methu bod yn bresennol ar y noson am wahanol resymau, cafodd y rhai a gymrodd ran hwyl fawr ar y diddanu, a diolch am y gwahoddiad.

Fore Sul, 6 Mawrth, cynhaliwyd Gwasanaeth Gwyl Dewi a Sul y Mamau yn y capel, ac roedd yn braf gweld 22 o blant yn cymryd rhan, sef Dion Wyn, Cari, Delun a Guto Davies, Dwynwen, Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Gwenno Humphreys, Gethin a Gwenno Evans, Megan a Mari Herberts, Cain a Jess Owen, Gwawr ac Iestyn Jenkins, Ianto Rhyd Wilcocks, Saran Aur, Lleucu Jones a Caru Ann. Roedd y capel wedi ei addurno’n hardd gyda chennin Pedr a baneri Dewi Sant a’r Ddraig Goch. Cafwyd defosiwn ar ddechrau’r cyfarfod, yna cyngerdd traddodiadol Gwyl Dewi i ddilyn, gydag rhaglen amrywiol yn cynnwys canu, llefaru ac unawdau ar y ffliwt a’r delyn. Roedd Carmel, y Bedyddwyr hefyd wedi ymuno yn y gwasanaeth; croesawodd y Parch Lewis Wyn Daniel bawb yn gynnes. Cafwyd anerchiad amserol ganddo i orffen y gwasanaeth a diolchodd i athrawon yr Ysgol Sul am eu hymroddiad. Gwnaed casgliad tuag at Gymdeithas y Beiblau gan Cari a Dwynwen, a chyflwynodd y plant dusw o gennin Pedr i’w mamau ar ddiwedd yr oedfa, fel gwerthfawrogiad gan yr Ysgol Sul am eu cefnogaeth cyson.