Cymdeithas Undebol Capeli

AR 18 Ionawr cafwyd noson yng ngh-wmni John a Carys Parry a deithiodd i dde America, i Quito sef prif-ddinas uchaf y byd yng nghwlad Equador.Oddiyno aethant i ynysoedd y Galapagos i weld y gwahanol ryfeddodau. Ynysoedd folcanic ydynt, oddeutu pedair miliwn o flynyddoedd oed a does neb yn siwr sut daeth y gwahanol anifeiliaid yno i fyw.Y ddamcaniaeth boblogaidd yw fod yr anifeiliaid wedi dod i’r ynysoedd ymysg coedydd a ddaeth o afonydd o dde America gan deithio 500 milltir ar draws y môr. Mae’r ynysoedd yn cael eu effeithio gan lifeiriant o ddwr oer sy’n dod o’r Antarctic am oddeutu naw mis o’r flwyddyn sy’n dod â chyflenwad godidog o fwyd i’r morfilod, sharcod, morloi , tiwna, pengwyniaid a’r marlins. Dros y Nadolig beth bynnag, daw llifeiriant cynnes o gyfeiriad Panama. Mae hwn yn llesteiriol iawn i’r bywyd gwyllt gan nad oes bwyd yn dod yn ei sgil ac mae tynheredd y mor yn codi. Ymwelodd Charles Darwin â’r Galapagos a’r ei deithiau a sylwodd fod anifeiliaid pob ynys wedi esblygu yn wahanol gyda chanlyniad iddo sgwennu Origin of Species.Cyflwynwyd y noson gan William Owen a chafwyd diolchiadau gan Christopher Prew.

The Church of Jesus Christ of Latterday Saints

THIS COMING Sunday in Y Ganolfan: 10am, main service (with bilingual communion); 11.20am, scripture study (Sunday School for all ages).Everybody welcome.