Urdd y Benywod Capel Pantydefaid
AR NOS Wener, 27 Tachwedd, bu dwy aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian, yn rhoi hanes eu taith i Batagonia. Soniodd y ddwy, Einir Ryder a Mererid Davies, am yr hwyl a’r mwynhad gawsant er fod y daith wedi cymryd 28 awr i gyrraedd yno.Roeddent yno adeg yr eisteddfod, achlysur sydd mor boblogaidd gan bobl Patagonia, ac yn dangos pw-ysigrwydd eu cysylltiad â Chymru o hyd. Cawsant gyfle i ymuno yn y cystadlaethau a chipio ambell wobr yn ogystal. Gobeithio cawn gwmni’r ddwy eto i sôn am eu teithiau diddorol.Y nos Wener canlynol bu’r Prifardd Dylan Iorwerth yn sôn am ei deithau i’r India ac i Fadagasgar yn dilyn ôl traed rai o’r cenhadon. Soniodd am Helen Rowlands, Porthaethwy oedd yn cael ei hadnabod fel Helen o Fôn. Gweithiodd hi yn galed i helpu merched yn India, a chododd gartref i ferched mewn perygl yn Assam.Bu’n sôn wedyn am ei ymwe-liad â Madagasgar ac am ddau o’r cenhadon cyntaf sef David Jones a Thomas Bevan – y ddau yn ddisgyblion i Thomas Philips, prifathro hen goleg Neuaddlwyd.Aeth y ddau a’u teuluoedd gyda nhw – David Jones gyrhaeddodd Madagasgar gyntaf yn 1818, ond yn drist bu farw ei faban a’i wraig yn ystod yr wythnosau cyntaf. Digwyddodd yr un peth i Tho-mas Bevan, Mrs Bevan a’i baban bach, ar ôl iddynt gyrraedd Mada-gasgar ymhen rai wythnosau ar ôl David Jones. Bu hon yn noson diddorol iawn, yn enwedig gan fod rai o’n haelo-dau â chysylltiad teuluol â David Jones. Gobeithio cawn gwmni Dylan Iorwerth heb fod yn hir i glywed rhagor am ei deithiau tramor.Ar 11 Rhagfyr, cawsom ginio i ddathlu y Nadolig yn Nhafarn Gwarcefel. Ein gwr gwadd ar y noson oedd ein hannwyl weinidog, y Parch Wyn Thomas. Fel arfer, ar noson ein cinio blynyddol, bydd cystadleuaeth i’n haelodau, a’r dasg eleni oedd ‘Y Plât Pertaf’. Ein gweinidog gafodd y dasg anodd o feirniadu yr holl blatiau.Enillwyd y wobr gyntaf am blât ‘Gaudy Welsh’ (Tulip Pattern) oedd yn eiddo i Llywela Evans. Aeth yr ail wobr i Rowena Davies am blât modern lliwgar am fod Wyn yn hoffi’r lliwiau ac yn ei at-goffa am y Gwanwyn. Rhannwyd y drydedd wobr rhwng Rhian Morris a Caroline Davies.Edrychwn ymlaen nawr at dymor newydd a chystadleuaeth arall i’n herio.
Sioe
BYDD cyfarfod nesaf o’r sioe ar nos Fercher, 3 Chwefror, yn y dafarn ym Mhrengwyn am 8yh.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.