MAE ymgyrchwyr yn cynnal protest yn Aberystwyth yn erbyn y penderfyniad i waredu rhaglen radio boblogaid Geraint Lloyd.

Daeth y newyddion yn gynharach y mis yma y bydd ei raglen yn dod i ben ddechrau mis Hydref, ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar Radio Cymru.

Yn dilyn y cyhoeddiad, lansiwyd desieb yn gwrthwynebu’r penderfyniad, sydd wedi cael ei arwyddo gan dros 1,900 o bobl.

Mae trefwnyr y brotest yn galw ar bobl i ymgynnull y tu allan i Siop y Pethe ddydd Sadwrn, 24 Medi am hanner dydd lle bydd cefnogwyr y darlledwr poblogaidd yn siarad o blaid cadw rhaglen Geraint Lloyd ar yr awyr.

Mae sylwadau a adawyd ar y ddeiseb arlein yn gefnogol iawn i’r cyflwynydd sy’n hannu o Ledrod, ger Aberystwyth.

Yn ôl Dafydd Iwan: “Mae Geraint yn un o’r lleisiau diffuant hynny sy’n taro deuddeg gyda’n diwylliant gwledig ni fel Cymry.”

Meddai un arall: “Cefnogaf y ddeiseb hon am fod modd clywed lleisiau Cymry cyffredin o bob rhan o’r wlad ar y rhaglen.

“Mae gan Geraint Lloyd ddilynwyr ffyddlon, a llwydda i apelio at bobl na fyddent o reidrwydd yn gwrando ar Radio Cymru fel arall.”

Ac un arall: “Dyma raglen safonol sy’n gwmni arbennig i gymuned eang ac amrywiol gan gynnwys pobl sy’n unig ac yn fregus.

“Mae’r rhaglen yn drysor i’w gwrandawyr – gweithwyr oriau anghymdeithasol, mamau i blant bach, pobl ifanc ac oedrannus hefyd. Cysur o raglen i gynifer o bobl!”

Ac un arall: “Mae teimlad cymunedol unigryw i raglen Geraint Lloyd. Mae’n cyfathrebu yn dda iawn gyda’r rheiny sy’n cysylltu ar y rhaglen, ac felly mae yna deimlad bod y gwrandawyr (fel fi) yn cael dod i adnabod y cyd-wrandawyr.

“Oherwydd y teimlad cymunedol hynny, mae rhaglen Geraint Lloyd wedi fy helpu llawer dros y cyfnod clo cyntaf drwy gadw cwmni agos iawn bob nos. Ffôl iawn fyddai cael gwared ar raglen Geraint Lloyd.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru y mis diwethaf: “O bryd i’w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i’r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid.

“Mae’n diolch ni’n fawr i Geraint Lloyd am ei gwmnïaeth gyson gyda’r nos dros y blynyddoedd.”