BYDD buddsoddiad £11m yn cael ei wneud i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.
Cyhoeddedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell yr wythnos ddiwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2 – rhaglen newydd a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol.
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a’r gwerthusiad o raglen gynharach Arfor a lansiwyd yn 2019, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar awdurdod lleol, sef Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, a Sir Gaerfyrddin.
Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.
Bydd hefyd yn helpu o ran:
• Creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) aros yn eu cymunedau cynhenid neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa.
• Creu cymunedau mentrus mewn ardaloedd Cymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
• Manteisio i’r eithaf ar weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod gwaith monitro yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliant parhaus.
• Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a’i hamlygrwydd, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.
Mae’r cyhoeddiad yn amlinellu bod cytundeb wedi’i wneud gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol ar raglen o weithgarwch a fydd yn helpu i gefnogi ein cymunedau Cymraeg. Bydd gwaith nawr yn parhau ar fanylion yr ymyriadau.
Dywedodd Mr Gething: “Drwy weithio gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.”
Dywedodd Mr Campbell: “Mae’r buddsoddiad gwerth £11m yn y cynllun hwn yn hwb uniongyrchol i economïau’r gorllewin, a fydd yn hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ymhellach ac yn helpu i warchod y Gymraeg.
“Rydym am sicrhau bod cymunedau yn yr ardaloedd hyn yn gallu ffynnu a bod pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol i weithio neu i dyfu busnes.”
Cyhoeddwyd y pecyn ariannu newydd ar gyfer Arfor 2 yn ystod ymweliad â Chanolfan S4C, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, a gwnaethant gyfarfod ag entrepreneuriaid lleol.
Un o amcanion sefydlu’r Egin oedd bod yn gatalydd ar gyfer hybu a chryfhau’r Gymraeg a’r economi yn Sir Gaerfyrddin. Ers agor, mae’r Egin wedi dod yn gymuned brysur o greadigrwydd lle mae ffocws ar rannu, cydweithio a datblygu busnes.
Cafodd y Gweinidog a’r Aelod Dynodedig flas ar fêl Sir Gaerfyrddin gan gwmni Mêl Gwenyn Gruffydd, busnes o Sir Gaerfyrddin a wnaeth elwa ar gam cyntaf Arfor.
Dywedodd Gruffydd, cyd-sylfaenydd Gwenyn Gruffydd Cyf: “Mae cael cymorth drwy Gynllun Arfor wedi golygu bod busnes mêl bach fel ein un ni wedi cael cyfle i ffynnu mewn cymuned Gymraeg wledig.
“Mae wedi caniatáu i fi a fy ngwraig weithio’n llawn amser yn y busnes ac wedi ein galluogi i greu swydd Gymraeg arall o fewn y busnes hefyd.”
Dywedodd y Cyng Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen yn fawr at gryfhau’r cysylltiadau rydym wedi eu meithrin drwy brosiect Arfor. Efallai bod ein cymunedau yn ymddangos yn fregus mewn rhai ffyrdd, ond ar yr un pryd maent yn lleoedd bywiog a chyffrous sydd â llawer i’w gynnig. Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gynyddu cyfleoedd ac felly annog ein pobl ifanc i aros ac adeiladu eu bywydau yma, gan ddiogelu ein hiaith, ein diwylliant a’n ffordd o fyw ymhellach.”
Dywedodd y Cyng Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi unwaith eto yng Nghynllun Arfor, er mwyn parhau â’r gwaith o gefnogi twf ecoomaidd, a chefnogi’r Gymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru.
“Mae pobl ifanc ac economi Ceredigion eisoes wedi elwa o gefnogaeth o dan gynllun gwrieiddiol Arfor, a mi fydd y buddsoddiad pellach yma’n hwb i’n hymdrechion i wireddu twf economaidd a chyfleoedd i bobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli i feithrin gyrfaeodd llwyddiannus yma yng Ngheredigion.”



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.