Cylch Cyfeillion

OHERWYDD y tywydd garw rydym yn ei gael ar hyn o bryd ‘roedd angen rhywbeth i godi calon aelodau’r Cylch Cyfeillion, felly penderfynwyd mynd am baned a chacen i Gaffi’r Tyddyn, Tyddyn Sachau, Y Ffôr bnawn Llun, 1 Chwefror.Cafwyd croeso cynnes yno fel arfer a threuliwyd y pnawn gyda’r aelodau yn sgwrsio ymysg ei gilydd a gydag amryw o eraill oedd yn mwynhau eu hunain yno.Roedd yr arddangosfa’n ardderchog fel arfer, gyda’r briallu amryliw wedi eu gosod fel carped crand yn ganolbwynt i’r adeilad i gyd.

Enillwyd gwobr yr wythnos gan Arwel Davies, Dinas. Cyn troi am adref cafwyd trafodaeth ynglyn â’r gweithgareddau y gobeithir eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Anfonir cofion cynhesaf y cylch at Gwen Helen Jones, Llwynhudol,ac Ella Roberts, Yr Ala.

Cymdeithas

CAFWYD cwmni garddwr o fri, sef Eurwyn Roberts o Ddolwyddelen mewn cyfarfod o Gymdeithas Ddiwylliannol Y Drindod nos Wener, 12 Chwefror.Croesawyd ef yn gynnes gan Richard D Wiliams, llywydd y noson.Mae Mr Roberts wedi ennill llawer o wobrau gyda’i gynnyrch gardd ac ‘roedd wedi dod a nifer o blanhigion i’w arddangos. Yna yn gelfydd iawn dangosodd sut i osod basged o flodau tymhorol.Roedd cyfle yn ystod y noson i’r gynulleidfa ofyn nifer o gwestiynau garddio iddo.Diolchwyd yn gynnes iddo am noson ddifyr ac addysgiadol gan y gweinidog, y Parch W Bryn Williams. Daw’r tymor i ben gyda chyfarfod i ddathlu Gwyl Ddewi ar nos Wener, 4 Mawrth. Trefnir lluniaeth a bydd adloniant yng nghwmni’r tenor enwog Glyn Williams, Borth y Gest.

Services/OedfaonST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday 6.30pm Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; Wednesday 10.30am Eucharist.Capel Seion: 10yb, Dr Jennie Hurd, cadeirydd, Synod Cymru.Capel Penlan: 10yb Parch Ioan W Gruffydd, Pwllheli.

Ala Road

MORNING worship this coming Sunday, 21 February, will be led by Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

Lent

THE SECOND in the series of Lenten services will be held at the Presbyterian chapel on Monday, 22 February at 7.30pm. The subject will be ‘I am the Good Shepherd’ and the service will be in English.Services will be held in each of the town’s churches throughout Lent on the theme ‘I am...’ from the Gospel according to John.