Aelwyd Chwiorydd
YN Y cyfarfod ar bnawn Llun, 22 Chwefror bu Aelwyd Chwiorydd Y Drindod yn dathlu Gwyl Ddewi yng nghwmni ‘Parti Griff’, sef Griff Owen a Dan ac Elsie Hughes.Cyflwynwyd darlleniadau gan Dan, hanes Dewi Sant gan Griff a darnau o farddoniaeth ar alawon adnabyddus gan y tri. Yn wir, cafodd yr aelodau bnawn addas hwyliog iawn i ddathlu eu Cymreictod. Roedd y byrddau wedi eu harddu gyda Chennin Pedr a mwynhawyd teisennau cri gyda’r baned dan ofal Lydia Jones a Jean Jones.Llywyddwyd y cyfarfod gan Jean Williams a hi hefyd arweiniodd y gwasanaeth dechreuol.
Capel y Drindod
DDYDD Gwener, 4 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.Ddydd Sul, 6 Mawrth: 10yb a 5yh, oedfaon yng ngofal y Gweinidog, ysgolion Sul fel arfer; 7yh, oedfa o Fawl yn Ebeneser, Y Ffôr.Ddydd Llun, 7 Mawrth: 2yh, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel Seion.Ddydd Mercher, 9 Mawrth: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Oedfaon/services
ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist /Offeren; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, Parch Gwyn C Thomas.Capel Penlan: 10yb, Parch Glenys Jones.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church this coming Sunday, 6 March, will be led by the minister, Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15 and a warm welcome is extended to all.
Crynwyr
BYDD y Crynwyr yn cyfarfod yng Nghapel y Drindod fore Llun, 7 Mawrth am 11.30yb. GarawysCYNHELIR y pedwerydd yn y gyfres o gyfarfodydd undebol Y Garawys yng Nghapel Seion nos Lun, 7 Mawrth am 7.30yh. Bydd y cyfarfod yn Gymraeg ar y testun ‘Myfi yw Goleuni y Byd’ o Efengyl Ioan. Croeso cynnes i bawb.
Cylch Cyfeillion
DATHLWYD penblwydd arbennig iawn ysgrifenyddes y Cylch, sef Jean Roberts yn y cyfarfod ar bnawn Llun, 22 Chwefror.Trefnwyd y te gan Eirlys Davies a gan nad oedd cyfarfod o’r Cylch ar ddydd Mawrth Crempog roedd hi hefyd wedi gwneud nifer dda o grempogau ar gyfer y parti penblwydd. Diolchodd Jean i bawb am brynhawn hapus iawn. Cyn troi am adref cafwyd un gêm o bingo a’r enillwyr oedd Jean Roberts a Gwyndaf Davies.
Chwiorydd Penlan
EDRYCHWYD ymlaen at ddathlu Gwyl Ddewi yng nghwmni’r cerddor a chyfansoddwr adnabyddus, Robert Arwyn, mewn cyfarfod o Gymdeithas Chwiorydd Penlan yn festri’r capel bnawn Llun, 1 Mawrth.
Dydd Gweddi
BYDD cyfarfod Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd yn festri Penlan bnawn yfory, ddydd Gwener, 4 Mawrth am 2yp.Paratowyd y gwasanaeth eleni gan chwiorydd Ynys Ciwba ar y testun ‘Derbyniwch blant, Derbyniwch Fi’.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.