Mae awdur o Aberystwyth, Eurig Salisbury, wedi cyhoeddi llyfr newydd ar y ffigwr hanesyddol, Ifor Bach.

Mae gwasg Gomer ar fin cyhoeddi cyfrol newydd sbon gan Eurig Salisbury, awdur Cai, a gipiodd y Fedal Ryddiaith yn 2016.

Mae Eurig yn ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Enillodd y Fedal Ryddiaith a’i nofel gyntaf, Cai, yn 2016, a bu’n Fardd Plant Cymru 2011–13.

Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i wraig Rhiannon a’u mab Llew.

Mae’n bosib taw’r clwb nos enwog, neu’r ysgol a enwir ar ei ôl, yw’r arwyddion pennaf fod y g?r hwn, Ifor Bach, o bwys hanesyddol i ni’r Cymry.

Ond pwy sy’n gwybod mwy na hynny? Pwy yn union oedd Ifor ap Meurig, a beth oedd ei gamp fawr?

Ffrwyth dychymyg yr awdur ei hun yw’r stori hon ar y cyfan, ond mae’r cwbl wedi’i seilio ar yr ychydig friwsion o wybodaeth hanesyddol a geir mewn llawysgrifau am y g?r byr ei faint, ond mawr ei gymeriad, oedd yn un o arglwyddi Cymru yn y 12fed ganrif.

“Ers darllen am Ifor Bach pan o’n i’n blentyn, mae fy niddordeb ynddo fel ffigwr hanesyddol, ond hefyd fel dyn o gig a gwaed, wedi parhau,” meddai Eurig.

“Arwr anturus yn unig oedd e imi flynyddoedd yn ôl, a does dim gwadu fod ei gamp enwog yng nghastell Caerdydd (rhaid darllen y gyfrol i ddod i wybod am hyn!) yn rhyfeddol.

“Ond bellach, a minnau’n dad ers tair blynedd, mae’r un mor ddiddorol – os nad yn fwy felly – meddwl amdano fel dyn go iawn, fel cyfaill, fel g?r ac fel tad.”

Ychwanegodd: “Roedd cyfnod Ifor yn un gwaedlyd iawn yn hanes Cymru, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y nofel, ond dwi’n gobeithio fod ing, cariad a hiwmor cynnil ynddi hefyd.

“Dwi’n sicr fod darluniau Jac Jones yn rhoi blas arbennig o’r cyfnod, ac mae wedi bod yn ddifyr gweld fy syniadau’n cael eu dehongli’n weledol ganddo.”

Mae’r darlunydd arobryn Jac Jones wedi creu’r clawr trawiadol a 10 o ddelweddau du a gwyn yn ei arddull nodedig ac unigryw, sy’n plethu drwy’r gyfrol.

“Doedd dim angen dychymyg hefo geiriau Eurig, jest dwyn y geiriau a gadael iddyn nhw redeg i siâp perthnasol. Braint oedd gweithio ar y gyfrol hon,” medd Jac Jones.

Dywed Meirion Davies, pennaeth cyhoeddi Gwasg Gomer: “Y darllenwyr targed yw oedolion ifanc, ond fe all oedolion o bob oed fwynhau darllen am hanes y cymeriad Cymreig eiconig hwn.

“Mae darluniau cywrain Jac Jones yn ychwanegu at naws y stori ac yn sbarduno’r dychymyg.

“Bydd hon yn glasur, ac mae’n haeddu ei lle fel llyfr o bwys i ni heddiw.”