Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn dathlu derbyn cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.
Rheilffordd Ffestiniog yw rheilffordd gul hynaf y byd gyda bron i 200 mlynedd o hanes. Mae eu trenau hanesyddol yn mynd â chwsmeriaid ar daith sy’n llawn golygfeydd bendigedig o’r harbwr ym Mhorthmadog i dref chwareli llechi Blaenau Ffestiniog. Rheilffordd Eryri yw rheilffordd dreftadaeth hiraf y DU ac mae’n rhedeg am 25 milltir o Gaernarfon, heibio troed yr Wyddfa a phentref Beddgelert, yna trwy Fwlch Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog.
Dywedodd Osian Hughes, Arweinydd Marchnata Rheilffordd Ffestiniog: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg gan swyddfa’r Comisiynydd. Mae hyn yn gyflawniad hynod sylweddol i’r rheilffordd, ac rydym yn benderfynol o barhau i wella a datblygu ein Cynnig Cymraeg ymhellach.
“Mae diwylliant Cymraeg cryf yn yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi ac fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi iaith a diwylliant Cymru. Mae’r Cynnig Cymraeg yn ein gwneud ni yn fwy perthnasol ac yn ein helpu i arddangos balchder yn y Gymraeg.”
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae’n braf gweld bod Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn bod yn uchelgeisiol gyda’r gwasanaethau Cymraeg y maent yn eu cynnig. Rydym yn falch iawn eu bod yn ymroi i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld, a’i defnyddio bob dydd gan y staff a gyda’u cwsmeriaid.
“Mae’r Cynnig Cymraeg yn gyfle gwych i fudiadau o bob math godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau, ac yn galluogi mwy o bobl i fyw yn Gymraeg.”
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn bresennol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni, gyda’u hinjan ‘Lilla’ a’u cerbydau yn cael eu harddangos ar faes y Brifwyl yn ystod yr wythnos.
Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.