Mae S4C wedi rhyddhau’r lluniau cyntaf o’r ddrama gomedi dywyll, Pren ar y Bryn, a grëwyd ac ysgrifennwyd gan Ed Thomas o Fiction Factory (Y Gwyll/Hinterland) a fydd hefyd yn cael ei darlledu ar y BBC yn ddiweddarach. 

I lawer yn nhref Penwyllt, mae eu ffordd o fyw yn newid o flaen eu llygaid. Does neb yn teimlo hyn yn fwy na'r pâr priod, Margaret a Clive Lewis, sy’n darganfod eu hunain yng nghanol dirgelwch sy'n cyffroi’r dref gyfan, ac yn gwneud i’r trigolion edrych dros eu hysgwyddau. Ond mae'r criw yma yn gwybod sut i ddod o hyd i lawenydd yn yr absẃrd, a'r golau yn y mannau tywyllaf. 

Mae Pren ar y Bryn yn eich gwahodd i fyd lliwgar Penwyllt, tref a ysbrydolwyd gan y man lle magwyd Ed Thomas, a’i drwytho gan gyffyrddiad hyfryd o'r absẃrd. 

Ffilmiwyd y gyfres yng Nghwm Tawe, o amgylch Ystradgynlais ac Abercraf, lle cafodd yr awdur a'r cyfarwyddwr ei fagu, gyda'i deulu yn rhedeg siop gigydd yno am dros ganrif. 

Dywedodd Ed Thomas: "Mae'n stori fach fawr am newid, lle mae dyfalbarhad ac ymdeimlad iach o'r absẃrd yn werthfawr pan nad yw’r byd o’ch cwmpas yn gwneud synnwyr rhagor.  Mae'n stori leol ond wy'n gobeithio yn ei ffordd ei hun, mae'n stori y gall cynulleidfaoedd o unrhyw le uniaethu â hi". 

Gyda chast ensemble sy’n llawn o sêr gan gynnwys Nia Roberts, Rhodri Meilir, Richard Harrington, Suzanne Packer a Hannah Daniel, mae'r cymeriadau hoffus yn siŵr o'ch denu, mewn stori sy'n llawn cynhesrwydd a hiwmor. 

Dywedodd Nia Roberts, sy'n chwarae rhan cymeriad Margaret Lewis yn y gyfres: 

“Mae 'na blot fydd yn cadw pobl ar ochr eu seddi, ond mae hefyd yn ddrama am bobl ganol oed - rhywbeth nad y'n ni'n gweld ddigon. Mae'n quirky ac mae'n mynd i wneud i bobl grio, chwerthin... Mae'n unigryw!" 

Pan ofynnwyd iddi ddisgrifio'r gyfres, dywedodd yr actores Hannah Daniel, sy'n chwarae rhan Sylvia:  "Mae fel Ystradgynlais ar Asid." 

Mae Pren Ar y Bryn/Tree on a Hill yn gyd-gynhyrchiad Fiction Factory gydag S4C, BBC Cymru ac All3Media International gyda chefnogaeth gan Tinopolis a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. 

 Pren ar y Bryn

Nos Sul, 19 Tachwedd 21.00

Ar alw: S4C Clic, BBC iPlayer Tree on a Hill (Saesneg) ar y BBC yn 2024