Sefydliad y Merched

MWYNHAWYD noson o Frethyn Cartref mewn cyfarfod o’r gangen leol nos Lun, 8 Chwefror. Croesawyd pawb gan y llywydd, Rene Evans, a darllenwyd y cofnodion a’r llythyr misol. Roedd gweddill y cyfarfod dan ofal un o’r aelodau, sef Maria Davies a ddangosodd ddwy hen ffilm o’r ardal.Yn y gyntaf, cafwyd hanes ail-agor Mart Sarn yn 1991 ac yn yr ail, gwel-wyd lluniau Marchnad Nadolig y Mart yn yr un flwyddyn. Roedd y ffilmiau yn ddiddorol dros ben ac yn dwyn hen atgofion yn ôl. Diweddwyd y noson hapus gyda phaned dan ofal Heather a Lucy a oedd hefyd yn gyfrifol am wobr y raffl a enillwyd gan Mari Davies. Diolchwyd i bawb ar y diwedd gan Lowri Richards.Ym mis Mawrth bydd y gangen yn dathlu Gwyl Ddewi yn Chwilog dan wahoddiad y Sefydliad yno

Oedfa

PREGETHIR yn yr Oedfa Unedig yng Nghapel Salem, y Sul yma, 14 Chwefror, am 2yp gan y Parch Glenys Jones, Pwllheli.