MAE RHAI o artistiaid mwyaf enwog Cymru wedi dod at ei gilydd i recordio casgliad o ganeuon gan y cyfansoddwr, Alun ‘Sbardun’ Huws.

Mae’r albwm newydd Rhwng Môr a Mynydd: Sesiynau Sbardun, yn gasgliad sy’n deyrnged ysbrydoledig i’r cerddor a’r cyfansoddwr Alun ‘Sbardun’ Huws o Benrhyndeudraeth a fu farw yn 2014.

Dyma gasgliad o ganeuon hen a newydd gan gyfeillion a cherddorion ifanc sydd wedi derbyn ei offerynnau.

Perfformiwyd y caneuon yn wreiddiol ar y gyfres Sesiwn Sbardun BBC Radio Cymru a’r rhaglen deledu Stiwdio Gefn Sbardun ar S4C.

Roedd yr artistiaid hynny fu’n rhan o’r gyfres Sesiwn Sbardun ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru wedi derbyn un o offerynnau Sbardun, a’r offerynnau hynny sy’n gyfeiliant i’r perfformiadau ar y casgliad yma.

Yn cloi’r casgliad mae cyfansoddiad newydd sbon gan Dewi Pws Morris – sef Cân Sbardun.

Roedd Dewi yn gyfaill oes i Sbardun, ac mae Cân Sbardun yn deyrnged i’w ffrind ac yn ymuno gyda Dewi mae Linda Griffiths ac Ar Log.

Mae’r albwm yn cynnwys yr artistiaid Brigyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Osian Huw Williams, Elidyr Glyn (Bwncath), Gai Toms, Gwilym Bowen Rhys, Magi Tudur, Mei Gwynedd, Elin Fflur, Linda Griffiths, Dewi Pws, Ar Log a Parti Cut Lloi.

Dywedodd Dafydd Iwan am y casgliad: “Pan glywsom ni gyntaf caneuon direidus a dwys Y Tebot Piws, a dyfalu tybed a fydden nhw’n ymddangos ai peidio yn y gig nesa, ychydig a feddyliem fod yn eu plith dri o gyfansoddwyr mwyaf talentog eu cenhedlaeth: Ems, Pws a Sbardun.

“Mae’r casgliad hwn yn deyrnged ysbrydoledig i’r un sydd wedi’n gadael, sef Alun ‘Sbardun’ Huws.

“Ysbrydoledig yn y lle cyntaf am fod y syniad o rannu offerynnau Sbardun i nifer o gerddorion ifanc yn wych o syniad, a hynny yn ei dro yn ysbrydoli’r cyfansoddwyr a’r cerddorion hyn i dalu gwrogaeth i Sbardun yn y ffordd orau posib – drwy ganu ei ganeuon, a chyfansoddi rhai newydd.

“A da gweld fel y chwaraeodd Radio Cymru, S4C a’r byd recordio rhan wrth ddod a’r cyfan at ei gilydd."

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr