MEWN noson llawn bwrlwm a chyffro, tawelodd y gerddoriaeth a’r cystadlu yn Eisteddfod Ddawns Gorllewin Myrddin ynos Lun ar gyfer cyhoeddiad arbennig.

O flaen neuadd orlawn o blant, pobl ifanc, rhieni a chefnogwyr yn Ysgol Bro Myrddin, cyhoeddodd Heledd Cynwal mae Sioned Page-Jones o bentref Blaencoed, Sir Gar yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei gyflwyno yn flynyddol i wirfoddolwr arbennig fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru. Bydd Sioned yn cael ei anrhydedd mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin sy’n cael ei gynnal 29 Mai – 3 Mehefin.

Enwebwyd Sioned gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobl ifanc Sir Gar sydd wedi elwa o’i chefnogaeth a gwaith ieuenctid gwirfoddol. Mae gwaith gwirfoddol Sioned gyda phobl ifanc yn ymestyn nôl 26 mlynedd ac mae ei brwdfrydedd a’i ymrwymiad i’w chymuned leol yr un mor gryf ac egnïol heddiw.

Dechreuodd taith hyfforddi Sioned gydag Aelwyd Hafodwenog yn 19 mlwydd oed.  Ynghyd â bod yn Arweinydd yr Aelwyd cafodd Sioned flas ar hyfforddi yn 1997 wrth baratoi’r Parti Deusain dan 15 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. 

Daeth llwyddiant mawr i’r aelwyd y flwyddyn honno - cafodd y parti drydydd yn y gystadleuaeth a daliodd Sioned y ‘bug cystadlu’, profiad sydd wedi cefnogi sawl cenhedlaeth ar hyd y sir ers hynny. 

Daeth Sioned yn Arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont pan ail-sefydlwyd y Clwb 2004 gan sefydlu Côr Cymysg am y tro gyntaf yn ei hanes.  Deunaw mlynedd yn ddiweddarach mae Sioned dal wrth y llyw ac wedi hyfforddi ac arwain y Côr Cymysg i lwyddiannau mawr ar lwyfannau Eisteddfod CFfI Cymru.

Mae angerdd Sioned am faes y Ddawns Werin a Dawns y Glocsen yn heintus, ac mae wedi hyfforddi degau o grwpiau ac unigolion dawnsio a chlocsio yn enw Aelwyd Hafodwenog, Dawnswyr Talog a Chlocswyr Cowin dros y blynyddoedd.

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch Sioned Page-Jones ar ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.

"Mae Sioned wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Sir Gar ers dros chwarter canrif, a bydd hi’n fraint a phleser ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Gaerfyrddin.

"Mae’r Urdd yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid. Bydd seremoni arbennig i gyflwyno’r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ar ddydd Iau, 1 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.