BU siop Wilko ym Mhwllheli yn cynnal digwyddiadau i godi arian i Alzheimer’s, Teenage Cancer Trust ac Achub y Plant.

Roeddent yn gwerthu cacennau, rafflau a tombola ac roedd cystadleuaeth lliwio i’r plant.

Yn y llun gwelir un o’r enillwyr, Caio Thomas, yn derbyn ei wobrau gan Emma Brew, yn cynrychioli cwmni Wilko. Derbyniodd wy Pasg a chasgliad o ‘Pick and Mix’