Soar y Mynydd

HYFRYD oedd cael capel llawn y Sul diwethaf pan ddaeth y Parch Emlyn Richards, Cemaes, Sir Fôn atom i bregethu. O dan yr heulwen braf cawsom wasanaeth arbennig a bendithiol iawn ganddo. Diolch i bawb a ddaeth o bob rhan o Gymru i addoli gyda ni, yn enwedig i’r bws o fobol a ddaeth o Sir Fôn a’r cyffiniau. Pleser oedd cael unawd gan Gwawr Edwards yn canu ‘Wel dyma’r hyfryd fan i droi at Dduw’ a hefyd deuawd gan ei thad Dafydd Edwards ar ddiwedd yr oedfa, yn canu ‘Pwy fydd yma ym mhen can mlynedd.’ Cyfeiliwyd iddynt gan Alwenna Williams, Abermeurig. Gwnaed y cyhoeddi gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi. Disgwylir y Parch Guto Llewelyn, Hendy Gwyn ar Dâf i wasanaethu’r Sul nesaf am 2yp. Croeso cynnes i bawb.