Mae cynllun mentora wedi ei lansio gan SYLW – Cymuned Cyfathrebwyr Cymru. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i bobl sy’n gweithio yn y maes Cyfathrebu yng Nghymru i ddatblygu a dysgu wrth rai o arbenigwyr y maes.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gynllun Mentora SYLW gael ei gynnal ac mae 24 mentor wedi arwyddo i’r cynllun gydag enwau adnabyddus fel Guto Harri a Wynne Melville Jones yn barod i rannu eu harbenigedd gyda thon newydd o gyfathrebwyr.

Mae gofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais fer - os yn llwyddiannus, byddant wedyn yn cael eu paru gyda mentor sy’n addas i’w maes gwaith ac yn derbyn tair sesiwn fentora.

Lansiwyd SYLW nol ym mis Mai 2021 gan Manon Wyn James a Gwenan Davies wedi iddynt weld galw am greu cymuned gwbl Gymreig i gyfathrebwyr Cymru. Mae gan Manon dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes Cyfathrebu ac mae’n gweithio i S4C fel Pennaeth Adran y Wasg. Mae Gwenan yn arbenigo ar y Gymraeg yn y sector gyhoeddus a bu’n gweithio ar gynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am nifer o flynyddoedd cyn symud i Adran Farchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae erbyn hyn yn gweithio fel Swyddog Marchnata Corfforaethol i Menter a Busnes.

Erbyn hyn mae gan SYLW bron i 350 o aelodau ac maent eisioes wedi cynnal cynhadledd rithiol, cyfres o Sgyrsiau SYLW i glywed gan bobl sy’n gweithio yn y maes a Gwobr SYLW a gipiwyd gan Osian Wyn Owen yn Eisteddfod Ceredigion fis Awst.

“Dyma gyfle gwych i’n haelodau allu manteisio, dysgu a datblygu eu gyrfaoedd gyda rhai o arbenigwyr mwya’r maes Cyfathrebu” meddai Manon Wyn James un o sylfaenwyr SYLW.

“Rydyn ni wedi sicrhau bod y cynllun yn cynnwys arbenigwyr sy’n cyffwrdd â phob agwedd o gyfathrebu – o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, digwyddiadau i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gan ein harbenigwyr stôr o wybodaeth a phrofiad.”

Ychwanegodd Gwenan Davies: “Bu’r cynllun llynedd yn lwyddiant mawr gyda dau o’r ymgeiswyr yn derbyn swyddi parhaol gyda’i mentoriaid. Dyma gyfle arbennig felly i gael cyngor arbenigol a gwneud cysylltiadau gyda rhai o arbenigwyr Cyfathrebu gorau Cymru. Ewch amdani!” Gallwch wneud cais drwy’r ddolen yma: https://bit.ly/3TpIu7Z

Mae rhestr llawn o’r mentoriaid yma:

Alun Jones - Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol S4C

Alwena Hughes Moakes - Cyfarwyddwr Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Angharad Prys - Ymgynghorydd Cyfathrebu

Arwyn Jones - Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Senedd Cymru

Delyth Lloyd - Pennaeth Cyfathrebu Adra

Elan Iâl Jones - Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol S4C

Elin Williams - Rheolwr Marchnata Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ffion Clwyd Edwards - Cyfarwyddwr Pi-ar

Gareth Watson - Arweinydd Tîm Cyfathrebu Cyngor Sir Ddinbych

Guto Harri - Arbenigwr Cyfathrebu

Gweirydd Davies - Cyfarwyddwr Pobl Tech

Gwyn Williams - Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol S4C

Hawys Roberts - Uwch Swyddog Cyfathrebu Comisiynydd y Gymraeg

Heulwen Davies - Cyfarwyddwr Llais Cymru

Hugh Edwin Jones - Rheolwr Digwyddiadau Cyngor Gwynedd

Iola Jones – Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin

Kerry Ferguson - Cyfarwyddwr Gwe Cambrian Web

Llinos Iorwerth - Cyfarwyddwr Ateb

Mali Thomas - Cyfarwyddwr Cyfathrebu Urdd Gobaith Cymru

Manon Wyn James - Arweinydd Cyfathrebu S4C

Non Gwilym - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Non Tudur Williams - Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol BBC Cymru

Sian Tandy - Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Cyswllt Ffermio

Wynne Melville Jones - Arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus