DIWEDD mis Mawrth 2016, cyflawnwyd y fenter fwyaf ers 72 mlynnedd gan aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Penparc i godi swm enfawr o arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a’r clwb.

Trefnwyd taith tractorau ‘vintage’ o borthladd Abergwaun yn Sir Benfro ar hyd y A487 i Gaergybi yn Ynys Môn – taith o 195 o filltiroedd dros bedwar diwrnod.

Yn ddiweddar, cafodd yr aelodau y pleser o gyflwyno swm anrhydeddus iawn o £13,000 i’r Ambiwlans Awyr draw yn y ganolfan yn Llanelli.

Dymuna’r clwb ddiolch yn fawr iawn i’r noddwyr ac am y cyfraniadau a dderbyniwyd trwy gydol y daith. Maent hefyd yn ddyledus i nifer o bobl a busnesau am eu haelioni tuag atynt.