Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa fore Sul diwethaf am 10.30yb. Hwn oedd y cwrdd olaf am y flwyddyn, heblaw am Wasanaeth Nadolig y Plant at nos Sul, 20 Rhagfyr. Ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas oedd yn croesawu pawb i’r oedfa foreol hyn ac yn ôl yr arfer cafwyd neges amserol a phwrpasol gan-ddo a oedd yn sôn am y pethau pwysig sydd yn gwneud y Nadolig, sef heddwch a chariad i bawb drwy’r byd. Yn absenoldeb organydd, llwyddwyd i ganu’r emynau yn ddigyfeiliant. Cofiodd ein gweinidog am Wendy a’r teulu, Gwêlycwm yn dilyn marwolaeth ei chwaer mor annisgwyl yr wythnos ddiwethaf. Diolchodd ef i bawb am bob cymorth adeg y noson Carolau’r Nadolig a gynhaliwyd yn y capel nos Sul ddiwethaf, pryd y gwnaethpwyd elw o £458. Braf oedd gweld fod cymaint wedi dod allan ar fore mor wlyb a gwyntog i’r oedfa foreol hon ar y Sul cyntaf ym mis Rhagfyr.
Canu Gwlad
NOS SADWRN diwethaf tro Clive Edwards oedd hi i ddiddanu’r gynulleidfa yn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan. Mae Clive yn ddiweddar wedi lansio CD newydd, felly cafwyd cyfle i glywed rhai o’r caneuon hyn. Daeth Sion Corn ar ymweliad â’r ystafell ac fe rhannodd felysion, gwni mwl a mins peis i bawb. Cafwyd noson arall o lwyr fwynhad yng Ng-lanyrafon, yn gwrando ar y canwr a’r diddanwr o Hendy-gwyn ar Dâf yn mynd drwy ei bethau.
Adran yr Urdd
YN DDIWEDDAR bu pobl ifanc yr ardal sydd yn aelodau yn yr Adran leol yn cystadlu yn Carnifalwn yr Urdd. Llwyddodd pobl ifanc yr Adran ddod yn gyn-taf ar y noson, felly pob dymuniad da i bawb a fu’n cymryd rhan yn yr amrywiol gystadlaethau eleni eto.
Loteri’r Ysgol
ENILLWYR loteri’r ysgol y mis diwethaf oedd Brian Potter, Rhoslwyn a Pete a Llinos Whitfield, Maes y Crug. Rhif y bêl bonws oedd 16.Capel PisgahCYNHELIR oedfa gymun yn fore Sul nesaf am 10.30yb. Cynhelir gwasanaeth a pharti yr Ysgol Sul ar nos Sul, 20 Rhagfyr am 7yh yn y capel ac yna i lawr i’r Neuadd Goffa. Croeso cynnes i bawb yw’r neges.
Neuadd Goffa
NOS FERCHER bydd Cwmni Theatr Gydweithredol Troedyrhiw yn dod ar ymweliad â’r Neuadd Goffa i berfformio’r ddrama Pobl yr Ymylon a gafodd ei hysgrifennu nôl yn 1927. Roedd hon yn un o ddramau mwyaf poblogaidd yr oes, pryd oedd o leiaf un cwmni drama ym mhob pentref ar hyd a lled y gorllewin yn ei pherfformio. Felly cofiwch fynd erbyn 7.30yh i glywed hanes dau fachgen a sut mae bywyd y ddau yn newid. Stori sydd yn dal i fod yn berthnasol i ni heddiw. Pris mynediad yn £5 i oedolion a £3 i blant, gyda’r holl elw yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r Neuadd.
Carolau Nadolig
AR NOS Fawrth, 22 Rhagfyr am 7yh cynhelir Noson o Garolau yn y Neuadd Goffa, pryd y bydd Heledd Llwyd yn arwain y gân ac Enfys Llwyd yn cyfeilio. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Ddialysis yn Ysbyty Glangwili, cofiwch fynd i gefnogi.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.