Gwasanaeth Nadolig

CYNHALIWYD Gwasanaeth Nadolig Plant Ysgol Sul Capel y Fadfa ar nos Sul am 7yh.Cafwyd cyfle i glywed y plant yn mynd drwy eu pethau ar lafar a chân wrth iddynt ddod â stori’r Nadolig yn fyw unwaith yn rhagor i’r gynulleidfa. Yr un yw’r hanes bob blwyddyn ac mae Stori’r Geni mor berthnasol heddiw ac yr oedd dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Braf oedd gweld cynulleidfa luosog wedi dod ynghyd i ddangos cefnogaeth i’r plant ac i’r rhai fu yn eu haddysgu yn drwyadl iawn. Wrth yr organ oedd Catrin Evans ac Enfys Llwyd. Rhoddwyd y fendith ar y diwedd ynghyd â’r diolchiadau gan ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas. I ddilyn roedd Siôn Corn yn dod ar ymweliad â’r Festri i anrhegu’r plant a oedd wedi mynychu’r Ysgol Sul yn wythnosol ar hyd y flwyddyn. Gyda gwahoddiad wedi cael ei estyn i bawb i ymuno yn y te parti blynyddol, felly siawns i gael cymdeithasu dros baned a chacen ac i weld Siôn Corn.Capel PisgahCYNHALWYD gwasanaeth a pharti yr Ysgol Sul ar nos Sul, y gwasanaeth yn y capel am 7yh ac yna aeth pawb i lawr i’r neuadd goffa ar gyfer y Parti Nadolig, lle roedd Siôn Corn yn galw fewn a’r ymweliad gydag anrhegion i’r plant. Cafwyd oedfa gofiadwy â phawb wedi mwynhau’r te parti a oedd i ddilyn.

Capel y Fadfa

AR NOSWYL Nadolig cynhelir Gwasanaeth Garolau Undebol yng Nghapel Llwynrhydowen am 9yh ac yna ar fore’r Nadolig cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel y Cwm am 9yb gyda’n gweinidog yn arwain y gynulleidfa mewn oedfa amserol a thymhorol. Hefyd fore Sul nesaf cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel y Graig am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog unwaith etoYna ni fydd oedfa yn y capel tan ddydd Sul, 3 Ionawr am 1.30yp, pryd fydd ein gweinidog y Parch Wyn Thomas yn falch o estyn croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i’r cwrdd cyntaf yn y flwyddyn newydd a chyfle i rannu’r cymun.

Noson Galan

Y LLYTHYREN L yw thema gwisg ffansi Nos Galan Tafarn Glanyrafon eleni. Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno am y wisg orau ar gyfer oedolion a’r plant a bwffe blasus yn cael ei weini fel yr arfer. Dewch yn llu i gael hwyl a sbri yw’r neges!