Capel y Fadfa
CYNHALIWYD oedfa dydd Sul diwethaf am 1.30yp, pryd yr oedd ein gweinidog y Parch Wyn Thomas yn falch iawn o gael estyn croeso i aelodau a ffrindiau’r achos i’r cwrdd cyntaf o’r flwyddyn newydd. Cafodd y gynulleidfa gyfle i wrando ar Jac a Mari yn adrodd pennill o waith eu hen Fam-gu a oedd wedi cael ei ysgrifennu dros 60 mlynedd yn ôl ar gyfer plant i fynd i gasglu calennig ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn. Roedd geiriau hyfryd o’r pennill a’r ystyr mor addas heddiw ac yr oedd pan gafodd ei ysgrifennu flynyddoedd maith yn ôl. Braf yw cael clywed bod y traddodiad hwn yn dal i barhau yn ein pentrefi o hyd. Cafwyd anerchiad priodol ac amserol a chafodd y gweinidog gyfle i rannu’r cymun cyntaf o’r flwyddyn yn ystod yr oedfa. Cofiodd am Dai Griffiths gan ei fod wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar. Wrth yr organ oedd Carol Rees. Bydd yr oedfa nesaf ar fore Sul, 17 Ionawr am 10.30yb.
Ysgol Gynradd
ENILLWYR loteri’r Ysgol am mis Rhagfyr oedd Plant Dwynant a Cware Crug yr Eryr. Rhif y bêl bonws oedd 20.
Noson galan
Y LLYTHYREN oedd thema gwisg ffansi Nos Galan yn Nhafarn Glanyrafon wythnos diwethaf. Cafwyd noson dda gyda bwffe blasus wedi cael ei weini fel yr arfer i bawb a oedd wedi dod ynghyd i weld y flwyddyn newydd yn dod fewn.
Croeso i’r flwyddyn newydd
UNWAITH eto eleni daeth Cwm Hela Cwm Clettwr ar ymweliad â Thafarn Glanyrafon ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn ar wahoddiad Hefin a Megan. Hyfryd oedd gweld y ceffylau hardd yn cael eu marchogi gan fechgyn y cotiau coch a’r mar-chogwyr eraill. Braf i gadw’r traddodiad hyn i fynd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.