Capel y Fadfa

CYNHELIR oedfa brynhawn Sul nesaf am 3yp. Croeso cynnes i bawb i’r oedfa yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Eisteddfod Gadeiriol

ERBYN hyn mae rhaglen yr Eisteddfod Gadeiriol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 7 Mai, yn Neuadd y pentref wedi dod o’r wasg. Os am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295.

Cynhadledd

AR DDYDD Sadwrn, 5 Mawrth rhwng 10.30yb a 3.00yp yng Ngwesty’r Boars Head, Caerfyrddin bydd Undodiaid Cymru yn cynnal cynhadledd dan y penawd Ymlaen mewn Undod. Digwyddiad dwyieithog, sy’n cynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd i rannu syniadau ac arfer dda, i wneud awgrymiadau ac i drafod ffyrdd posib o ddatblygu’r mudiad ar gyfer y dyfodol. Cytunodd Undodiaid Cymru yn ddiweddar i roi’r prif ffocws dros y flwyddyn nesa ar Wasanaeth i Ddynoliaeth, hefyd i gefnogi un prif elusen, sef Cymorth i Fenywod, ac yn benodol BAWSO. Gobeithiwn bydd pob cynulleidfa yn ymuno â ni. I sicrhau eich lle cysylltwch â Melda erbyn 1 Mawrth fan pellaf ar 01559 36 2392 neu [email protected]