Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa’r Sul diwethaf am 1.30yp yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.A hithau yn Sul y Pasg, braf oedd cael cynulleidfa luosog wedi troi fewn i gyd-ddathlu.Cafodd ein gweinidog y cyfle i gydrannu’r cymun yn ystod yr oedfa arbennig hon. Yr organyddes oedd Enfys Llwyd.Canu GwladBYDD y noson canu gwlad gyntaf ar ôl toriad y gaeaf yng Ngwesty Glanyrafon nos Sadwrn, gyda Clive Edwards yn ôl yn diddanu ar wahoddiad Hefin a Megan. Yn ystod y noson bydd Cara a Dion, Rhosalaw, yn cyflwyno siec am £11,000 i Uned Chemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am eu mam, Angela.

Ysgol Gynradd

BU’R CANLYNOL yn llwyddiannus yn Eisteddfod Cylch Aeron: Meryl yn gyntaf ac Alaw yn ail ar yr Unawd Bl 5 a 6; Jano yn ail ac Alaw yn drydydd ar y Llefaru Bl 5 a 6; Meryl yn gyntaf ar yr Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6; Meryl yn gyntaf ac Alaw yn ail ar yr Alaw Werin i Bl 6 ac iau; Ysgol Talgarreg yn ail ar y Parti Unsain i ysgolion a dros 50 o blant; Ysgol Talgarreg yn gyntaf ar y Parti Llefaru.Da iawn i Meryl ac aelodau’r Parti Llefaru, sef Rebecca Rees, Meryl Evans, Owain Sisto, Owain Griffiths, Morgan Reeves, Llyr Rees, Alaw Silvestri-Jones a Jano Evans a fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod Sir ym Mhontrhydfendigaid yn ddiweddar.Codwyd cyfanswm o £156 ar ddiwrnod Casgliad Gwallt Gwyllt tuag at gronfa Ysbyty Plant Great Ormond Street yn Llundain.

Cwrdd y Gwanwyn

PRYNHAWN Sul nesaf bydd Undodiaid ardal y Smotyn Du yn ymuno yng Nghwrdd y Gwan-wyn yng Nghapel Pantydefaid erbyn 1.30yp.Bydd yr oedfa yng ngofal y Parch Wyn Thomas. Cynhelir pwyllgor gwaith y gymdeithas yn syth ar ôl yr oedfa ac i ddilyn bydd te yn cael ei weini yn y Festri.