Capel y Fadfa

CAFWYD gan y Parch Wyn Thomas neges amserol yn ôl yr arfer mewn gwasanaeth yn ddiweddar. Cofiodd am deulu Alun Davies, Cribyn (Dolwilym gynt) yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar.Yr un oedd y dymuniadau i Oliv-er Davies sydd wedi bod yn Ysbyty Bronglais a hefyd i Sally Davies, Bro Emrys yn dilyn ei harhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar.Cyfleodd y Gweinidog ein balchder fel aelodau yn dilyn gweld Wmffre Dafis, Gwardafolog ar raglen Cefn Gwlad gyda Dai Jones rhai wythnosau yn ôl.Mae Wmffre wedi ymgartrefi yn Henffordd ers blynyddoedd bellach ac yn rheolwr ar Ganolfan Arddio yno.Oherwydd amryw amgylchiadau ni fydd oedfa yn y capel nawr tan 5 Mehefin, pryd y cynhelir Cwrdd Pawb Ynghyd a bydd te i ddilyn yn y festri.Yn ôl yr arfer fe estynnir croeso cynnes i’r aelodau a ffrindiau’r achos i’r oedfa flynyddol hyn yn ein calendr o wasanaethau.

Canu

NOS Sadwrn diwethaf roedd y ddeuawd newydd o’r Gogledd sef Dafydd a Lisa yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau ymweld â’r ardal ac ni chafodd neb eu siomi.Braf oedd cael cwmni Lliwen hefyd, gan mae hi oedd yn cyfeilio iddynt ar yr allweddellau. Llond stafell o bobl yn mwynhau gwrando ar ganeuon hen a newydd. Bydd y ddeuawd hyn nôl eto yn diddanu ar nos Sadwrn, 20 Awst. Ar nos Sadwrn, 28 Mai bydd y diddanwr Tudur Wyn yn ôl unwaith eto am noson arall o lwyr fwynhad i bawb wrth wrando ar Tudur yn dweud ambell i jôc ac yn canu’r hen ffefrynnau.

Cylch Meithrin a Cylch Ti a Fi

WYTHNOS diwethaf cynhali-wyd cyfarfod blynyddol y Cylch, pryd roedd criw da wedi troi lan i’r neuadd. Diolch yn fawr i’r cyn-swyddogion Catrin Owens Evans, cadeirydd; Sarah Evans, ysgrifennydd; a Heledd Gwenl-lïan Gwyndaf, trysorydd am eu gwaith diwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch gysylltu gyda’r swyddogion newydd sef Teleri Morris-Thomas, cadeirydd; Marian Evans, ysgrifennydd; a Vicky Thomas, trysorydd unrhyw bryd gydag unrhyw beth yn ymwneud gyda’r cylch. Rydym yn chwilio am ddillad argyfwng/sbâr rhad ac am ddim i’r Meithrin. Dillad isaf, trowsus, shorts ayyb, byddem yn ddiolchgar i dderbyn y meintiau 2-3 a 3-4 plîs.