Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf, cynhaliwyd Cwrdd Pawb Ynghyd am 1.30yp yn y capel, gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu. Yn ôl yr arfer, roedd croeso cynnes wedi cael ei estyn i aelodau a ffrindiau i’r cwrdd blynyddol hyn. Dymunodd yn dda i bawb oedd wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a Rali y Ffermwyr Ifanc yr wythnos ddiwethaf. Diolchodd yn gynnes i bawb a fu’n tacluso o gwmpas y fynwent yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd. I ddilyn, aeth pawb i’r festri i fwynhau’r te ysblennydd a oedd wedi cael ei weini gan rai o ferched y capel. Bydd yr oedfa nesaf ar fore Sul, 19 Mehefin, am 9.45yb.
Taith Tractorau
FORE Sul diwethaf, hyfryd oedd gweld bod dros 40 o dractorau wedi cofrestru rhwng 9.30yb a 10.30yb yn y neuadd. Wedi cael ychydig o luniaeth gadawyd am y daith o amgylch lonydd cul yr ardal. Yn Nhafarn Glanyrafon roedd y daith wedi gorffen, lle cafwyd rhagor o fwyd. Bydd holl elw’r daith yn mynd er budd yr Ysgol Gynradd, Chylch Ti a Fi ac Ysgol Feithrin. Canu BYDD y canu nesaf yn Nhafarn Glanyrafon ar nos Sadwrn, 18 Mehefin, gyda Clive Edwards yn ôl yn diddanu unwaith eto.
Gwyl Talgarreg
CYNHELIR yr Wyl eleni ar benwythnos gyntaf mis Gorffennaf, pryd y cynhelir Helfa Drysor ar droed ar y nos Wener. Trefnwyr yr helfa fydd enillwyr llynedd. Ymgynnull yn y neuadd rhwng 6 a 7 o’r gloch yr hwyr. Bydd tâl mynediad o £1 y person, gyda phlant ysgol gynradd am ddim. Ddydd Sadwrn yng nghae’r ysgol am 2.30yp cynhelir y carnifal, mabolgam-pau, ras Sïon Cwilt, barbeciw, rownderi a thynnu’r celyn. Tâl mynediad fydd £3 y person, a phlant yr ysgol gynradd am ddim. Thema’r fflôt eleni fydd Ewrop, gan obeithio y bydd timau o ardaloedd Pisgah, Tal-garreg, Bwlchyfadfa a Phantgoch yn cymryd rhan, felly digon o amser i bawb baratoi eu gwisgoedd fansi ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn.
Ysgol Gynradd
UN ENILLYDD oedd i Loteri Ysgol y mis diwethaf sef Lowri Davies, Rhosawel a rhif y bêl lwcus oedd 59. Diwrnod Agored DYDD Sadwrn diwethaf oedd Diwrnod agored yn Amgueddfa Peter a Pamela yn Gerynant. Roedd cyfle i bobl alw mewn i weld yr hen beiriannau a’r ardd. Doedd dim tâl mynediad, ond roedd cyfraniadau yn cael eu casglu tuag at Ymchwil Cancr. Cafwyd diwrnod braf, gyda thywydd bendigedig, a phawb wedi mwynhau mynd o amgylch i weld pob dim sydd wedi cael eu casglu ar hyd y blynyddoedd gan y ddau.






-and-John-Bradbury-(inset).png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.