Capel y Fadfa
CYNHELIR oedfa’r Sul nesaf am 9.45yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Tho-mas, yn gwasanaethu.
Canu
YN ANFFODUS ni fydd Clive Ed-wards yn canu yn Nhafarn Glanyrafon nos Sadwrn nesaf.
Gwyl Talgarreg
CYNHELIR yr wyl eleni ar y penwythnos gyntaf yng Ngorffennaf.Ar nos Wener fydd helfa drysor ar droed, ymgynnull yn y neuadd rhwng 6yh a 7yh; dydd Sadwrn, carnifal, mabolgampau, Ras Sion Cwilt, barbeciw, rownderi a thynnu’r gelyn, yng nghae’r ysgol am 2.30yp.Thema’r fflôt yw Ewrop, gan obeithio bydd timau o ardaloedd Pisgah, Tal-garreg, Bwlchyfadfa a Phantgoch yn cymryd rhan.
Ysgol Gynradd
DAETH beirniadaeth arbennig i Gwennan Thomas, Bl 5, gan iddi ennill Tlws Coffa Ken Lloyd Gruffydd am Luniadu 2D i Bl 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.Hefyd daeth Erin Griffiths, Bl 4, yn ail am Graffeg Gyfrifiadurol i Bl 3 a 4.Roedd yn hyfryd gweld eu gwaith yn y babell gelf.Taith TractorauDIOLCH i bawb am gefnogi’r daith dractorau ddydd Sul, 5 Mehefin. Cafwyd diwrnod pleserus a llwyddwyd i godi £900 tuag at gronfa’r ysgol a’r ysgol feithrin.
Rasys Trotian
ROEDD dydd Sul diwethaf yn ddiwrnod pwysig iawn yn Nhalgarreg wrth i griw bach sy’n gweithio’n galed i drefnu’r uchod, yn dathlu chwarter canrif o rasys yn yr ardal.Eleni roedd cinio tri chwrs wedi cael ei drefnu yng Ngwesty Glanyrafon cyn y rasys, gyda pheth o’r arian yn cael ei gyfrannu tuag at Ambiwlans Cymru.Cae Rhydlydan oedd cartref y digw-yddiad, gyda’r ras am 1.30yp.Llywydd y dydd oedd un sydd wedi bod ar y pwyllgor ers y cychwyn, sef Dai Rees, Penlan Noeth, a’r is-lywydd oedd John Elder, ef hefyd wedi bod yno ers y dechrau. Roedd yno rasys oedd yn apelio at bob oedran a phrofiad. Cafwyd diwrnod arbennig, gyda phawb wedi mwynhau’r dathlu a’r trotian.





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.