Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa’r Sul diwethaf am 9.45yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch i groesawi aelodau a ffrindiau’r achos i’r cwrdd boreol. Cafwyd neges amserol a phwrpasol yn ôl yr arfer. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.Mewn cyfarfod o’r Gyfadran Un-dodaidd ddydd Sadwrn diwethaf yng Nghaerfyrddin, cafodd ein gweinidog ei sefydlu fel cadeirydd y Gyfadran Undodaidd am y ddwy flynedd nesaf.Braf oedd clywed un o’n haelodau, sef y Parch Cen Llwyd yn arwain yr oedfa ar Radio Cymru fore Sul diwethaf, gyda Manon Richards a Luned Mair yn gwneud y darlleniadau pwrpasol ar Sul y Tadau.Ni fydd oedfa yn y capel uchod tan ddydd Sul, 17 Gorffennaf, gydag oedfa Gymun am 1.30yp.

Oedfa Undebol

PRYNHAWN Sul, 3 Gorffennaf cynhelir oedfa arbennig iawn yng Nghapel Pantydefaid am 3.30yp, pan fydd Undodiaid o Dde Cymru yn ymuno mewn oedfa undebol gyda’r Parch Wyn Thomos yn gwasanaethu. Yn y capel arbennig hwn roedd Richard Lloyd Jones a’i deulu yn mynychu cyn iddynt ymfudo i America. Daeth un o’i feibion, sef y Parch Jenkin Lloyd Jones yn weinidog yn Chicago, ef hefyd oedd ewythr y pensaer enwog Frank Lloyd Wright. Felly cofiwch am yr oedfa yn y capel hanesyddol hwn.

Taith Gerdded

DDYDD Sul, 10 Gorffennaf bydd Undodiaid ardal y Smotyn Du yn cynnal eu taith gerdded flynyddol.Eleni bydd y daith yn cychwyn o Gapel Pantydefaid am 1.30yp, ymlaen at hen gartref y diweddar Barch Jacob Davies ym Mhenlon. Cyfle i ganu emyn neu ddwy yno ac yna ymlaen at bentref Tregroes, lle bydd lluniaeth yn cael ei weini i bawb.Bydd holl elw’r daith eleni yn mynd tuag at Ymchwil Parkinson’s a Chalonnau Cymru. Os am ffurflen nawdd, cysylltwch gyda’r Parch Wyn Thomas neu Cen Llwyd mor fuan â phosib.

Gwyl Talgarreg

CYNHELIR yr Wyl eleni ar y penwythnos cyntaf ym mis Gorffennaf.Cynhelir Helfa Drysor ar droed ar y nos Wener, ymgynnull yn y neuadd rhwng 6 a 7yh. Tâl mynediad o £1 y person gyda phlant ysgol gynradd am ddim. Ddydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau, ras Sïon Cwilt, barbeciw, rownderi a Thynnu’r Celyn yng nghae’r ysgol am 2.30yp. Tâl mynediad yw £3 y person, plant yr ysgol gynradd am ddim. Thema’r fflôt eleni fydd ‘Ewrop’, gan obeithio y bydd timau o ardaloedd Pisgah, Talgarreg, Bwlchy-fadfa a Phantgoch ac o amgylch yn cymryd rhan.Mae digon o amser felly i bawb baratoi eu gwisgoedd ffansi ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn.

Ysgol Gynradd

CYNHELIR ffair entrepreneuriaid a rhostio mochyn ar nos Wener, 15 Gorffennaf yn y Neuadd Goffa am 7yh. Tocynnau ar werth yn yr ysgol, oedolion £5 a phlant yr ysgol gynradd am ddim; mynediad drwy docyn yn unig.Yn ystod y noson byddwn yn tynnu ein “Raffl Binc” er budd Cancr y Fron.