Capel y Fadfa
CYNHELIR oedfa gymun y Sul nesaf am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch i groesawi aelodau a ffrindiau i’r oedfa arbennig hon.
Taith Gerdded
DDYDD Sul diwethaf roedd Undodiaid ardal y Smotyn Du yn cynnal eu taith gerdded flynyddol. Eleni cychwynnodd 35 o bobl a phlant y daith o Gapel Pantydefaid am 1.30yp, ymlaen at hen gartref y diweddar Barch Jacob Davies ym Mhenlon. Cyfle i ganu emyn neu ddau yno ac yna ymlaen at bentref Tregroes, lle’r oedd lluniaeth wedi cael ei weini i bawb yn yr Hen Ysgol. Diolch i rai o ferched Capel y Fadfa am baratoi’r cacennau blasus o bob math a gafwyd. Gwnaed y diolchiadau gan y Parch Wyn Thomas. Bydd holl elw’r daith eleni yn mynd tuag at Ymchwil Parkinson’s a Chalonnau Cymru. Pawb sydd wedi codi arian i gofio trosglw-yddo pob ceiniog i drysorydd eich capel, er mwyn cyflwyno’r cyfan i Drysorydd y Gymdeithas erbyn diwedd mis Awst. I’r rhai ohonoch wnaeth gerdded, cofiwch fod yna amser o hyd i chi noddi rhywun sydd wedi gwneud, er mwyn gwneud yn siwr fod tipyn o arian yn cael ei godi tuag at y ddwy elusen arbennig hyn eleni eto.Ysgol Gynradd NOS Wener nesaf cynhelir Ffair Entrepreneraidd a Rhostio Mochyn yn y Neuadd Goffa am 7yh. Mynediad drwy docyn yn unig, ar gael o’r ysgol (oedolion £5, plant yr ysgol gynradd am ddim). Yn ystod y noson bydd y ‘Raffl Binc’ yn cael ei thynnu er budd Cancr y Fron.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn nesaf bydd y canwr a’r did-danwr poblogaidd Clive Edwards o Hendy-gwyn-ar-dâf, yn ôl yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.