Capel y Fadfa
FORE Sul, 11 Medi bydd oedfa gy-mun yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Miri Medi
CYNHELIR noson llawn hwyl ar nos Sadwrn, 10 Medi yn y Neuadd Goffa i ddechrau am 6yh. Ras peli, swper dau gwrs ac adloniant i ddilyn gyda Dafydd Pantrod a Rhydian Brynog.
Mynediad: £10 oedolion, £5 plant uwchradd, £2 plant cynradd. Tocynnau oddi wrth: Gwyneth 590482, Enfys 580389, Nia 590289 neu Teleri 590827.
Cofio’r Cant
MAE cyfres ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i gofio geni D Jacob Davies, gweinidog Undodaidd, bardd, colofnydd papur newydd Y Cymro, golygydd, awdur llyfrau, gwleidydd, emynydd ac yn un o ddiddanwyr poblogaidd y wlad.
Bydd y cyfan yn dod ynghyd mewn mis o Suliau o’r enw ‘Jacob - Cofio’r Cant’ pan fydd capeli Undodaidd y Smotyn Du yng Ngheredigion a Chymry adnabyddus o bob cornel o’r wlad yn dod at ei gilydd i gofio ei gyfraniad.
11 Medi, Capel y Bryn, Cwrtnewydd 7.30yh, Dyddiadur Tramp dan ofal y Parch Cen Llwyd; 18 Medi, Capel y Cwm, Cwmsychbant 1.30yp, Cofio Jacob yng nghwmni Jim Parc Nest; 25 Medi, Capel Pantydefaid 7.30yh, Cymanfa Codi Hwyl gyda Chôr y Fflam ac eraill; 2 Hydref, Capel y Fadfa, 1.30yp, Cyrddau Cymdeithas Undodiaid Deheudir Cymru, gyda chyflwyniad o eiriau’r Parch J Eric Jones, Aberdâr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.