Cyngor Cymuned

CARTHFFOSIAETH Pentref Llanfihangel-y-Creuddyn: Derbyniwyd ymateb wrth Swyddog o’r Cyngor Sir yn nodi y gwnaed ymweliadau a phrofion pellach a bod tarddiad rhan o’r broblem wedi dod i’r golwg. Deëllir fod y Cyngor Sir a pherchnogion y ty dan sylw mewn trafodaethau i geisio datrys y broblem. Cytunwyd i’r Clerc i ymateb i’r Swyddog gan ddiolch iddo am y wybodaeth gan werthfawrogi pe byddai’r Cyngor Bro yn cael eu diweddaru yn achlysurol gyda’r sefyllfa.Coed ar y B4340 Llechwedd Dyrys: Derbyniwyd wybodaeth wrth y Cyngor Sir yn nodi fod y perchennog tir wedi derbyn Rhybudd 154 i roddi sylw i’r coed i wneud y sefyllfa’n ddiogel.Golau yn y Gors: Nodir fod y Cyngor Sir wedi rhoi golau new-ydd yn y safle. Dwr Ger y Gors: Adroddwyd ar gyfarfod safle rhwng cynrychiol-wyr y Cyngor Bro, perchennog tir a Swyddog o’r Cyngor Sir. Nodir y cydnabyddir bod angen gweithredu i ddatrys y broblem ond yn ddibynnol ar gyllid y Cyngor Sir.Sefyllfa Band Lydan o fewn yr Ardal: Cynhaliwyd gyfarfod gydag Elin Jones AC, a drefnwyd gan berchnogion Y Ffarmers, Llanfihan-gel-y-Creuddyn. Cyfeiriwyd at wybodaeth a dder-byniwyd drwy law Elin Jones oddi wrth Alwena Williams, Cyfarwyd-dwr gyda BT. Yn ôl a ddeëllir, gobeithir dechrau ar y gwaith i gael band llydan cyflym i ardal Llanfihangel-y-Creuddyn yn yr Haf 2016.Nodir fod problemau yn codi gyda’r gwaith oherwydd bod ardal Llanfihangel-y-Creuddyn yn un o’r ardaloedd pellaf o’r gyfnewidfa yn Nhrawsgoed. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd y byddai’r clerc yn cysylltu gyda Swyddfa Elin Jones gan ofyn i wybodaeth gael ei drosglwyddo i Alwena Williams yn nodi pa mor anhapus yw’r Cyngor Bro gyda’r sefyllfa gan fod busnesau yn cael eu heffeithio a bod preswylwyr a busnesau yn talu trethi yn yr un modd ac ardaloedd eraill gan gofio hefyd nad oes signal ffôn symudol digonol o fewn yr ardal ychwaith. Ffos o Brenan i Lwynbrain: Y clerc i gysylltu unwaith eto i dynnu sylw’r Cyngor Sir at yr angen i gwblhau’r gwaith yma.Safle We: Adroddodd y clerc ei bod wedi derbyn gwybodaeth ar gyfer ail-greu safle we newydd a nodir er y derbyniwyd grant o £500 drwy Gyngor Sir Ceredigion roedd costau rhedeg y safle we bresennol mor uchel byddid yn fwy effeithiol o ran costau i ail-greu safle we gyda chwmni newydd, felly cytunwyd i beidio a pharhau gyda’r safle we bresennol a gwneud trefniadau i sefydlu safle we newydd llai costus. Cais Cynllunio Cyfredol: Planning Application A150528; erection of a 95 kW wind turbine including temporary access provision and electrical switch cabinet at the base of existing electrical connection point. Hub height is 30.1m, the tower height is 29 m, the rotor diameter is 23.6m. There are 3 blades in total. Penuwch Fach, Capel Seion, Ab-erystwyth: Cytunwyd fod angen i’r cais uchod gael ei drafod gan bwyllgor llawn o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion a byd-dai cynrychiolaeth o’r Cyngor Bro yn mynychu’r Cyfarfod hwnnw. Cais Cynllunio Newydd: Cais A150897, Bryncarmel, Cnwch Coch: Erection of an extension to dwelling. Yn dilyn trafodaeth cytunwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r Cais Cynllunio uchod. Ni wnaeth y Cyng Rowland Jones ymuno yn y trafodaethau uchod. Materion angen sylw Cyngor Sir Ceredigion: Angen cysylltu gyda’r Cyngor Sir am y materion isod ac hefyd yr angen am gael y peiri-ant ysgubo i rai o’r ffyrdd oedd ar angen fwyaf. Cyfer Gwter ger Brynhyfryd, Llanfihangel-y-Creuddyn: Yr angen i dynnu sylw brys y Cyngor Sir bod cyfer y gwter uchod wedi dod bant ac yn achosi perygl i gerbydau. Glanhau Gwteri: Mae nifer o gwteri angen eu gwaghau o Brynafan drwy Lanafan ac i lawr i Penffordd Newydd. Angen sylw brys gan fod nifer o’r gwteri yma yn hollol llawn. Deëllir fod yna nifer o gwteri yn ardal Llanfihangel-y-Creuddyn sydd hefyd yn hollol lawn ac angen glanhau ar frys. Ffordd Rhiw Dolgwybedig: mae sefyllfa ar y darn yma o’r ffordd yn anfoddhaol. Mae angen glanhau’r gwteri gan eu bod yn llawn dail a sbwriel ac yn ei dro bod mwd a dwr yn llifo allan o’r caeau ac yn erydu ochr y ffordd. Angen sylw brys yma. Ffordd Uchaf Llanafan: Mae nifer o goed uchel peryglus yn y darn yma sydd mewn perygl o gael eu chwythu lawr yn y gwynt, sy’n achosi pryder i’r preswylwyr sy’n byw yno. Angen sylw brys y Cyngor Sir at y coed yma. Coed: Cyfeiriwyd at ambell i goeden yn ardal Llanafan a Llan-fihangel-y-Creuddyn sydd mewn perygl o gwympo mewn tywydd garw. Y Clerc i gysylltu gyda’r perchnogion y coed dan sylw. Yn yr un modd y Clerc i gysylltu gyda perchnogion gwrychod o fewn yr ardal sydd angen cael eu tocio.Derbyniwyd yr ohebiaeth gan-lynol: Cais gan Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn am nawdd ariannol ar gyfer costau cynnal y Cyngerdd Nadolig yn Neuadd Lisburne. Cytunwyd i gyfrannu rhodd o £50.00 tuag at y costau. Llythyr gan S. Bennett ar ran preswylwyr ardal Cnwch Coch yn gwneud cais am nawdd ariannol i gynnal gwahanol weithgareddau yn y Pentref, gan gynnwys pwrcasu bwrdd ar gyfer gem tenis bwrdd a bwrdd dartiau i’w dodi yn Festri Capel Carmel. Cytunwyd i gyfrannu £50.00 tuag at y gweithgareddau uchod. Manylion wrth Gyngor Sir Ceredigion fod y ffordd U1175 Tanfelin Llanafan ar gau ar gyfer gwaith atgyweirio’r prif wasanaeth dwr. Gohebiaeth wrth Dwr Cymru yn rhannu gwybodaeth bod gwaith ymchwilio yn cael ei wneud yn Llanafan cyn dechrau ar y system garthffosiaeth yn y Pentref. Pamffled gan Fwrdd Iechyd Pri-fysgol Hywel Dda am gynlluniau i weddnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Unrhyw fater arall: Cyfeiriwyd at Ddarlith Flynyddol Fila Rufeinig Abermagwr yn Neuadd Lisburne nos Fercher, 9 Rhagfyr.Bocs Halen: Mae angen bocs halen newydd ar y rhiw yn Cnwch Coch gan fod yr un presennol wedi torri. Rali Ceir: Cyfeiriwyd at bryder am ddiogelwch y cyhoedd a niwed i’r ffyrdd a chloddiau pan gynhaliwyd rali ceir yn ddiweddar ar brynhawn Sul.Goryrru: Adroddwyd fod yna un neu ddau o unigolion yn ddyddiol yn goryrru ar y ffordd B4340 ar rai adegau o’r dydd. Y clerc i gysylltu gyda swyddog yr heddlu i gadw llygad ar y sefyllfa.