English Methodist Church

THE service on Sunday, 13 March, will be held in the Memorial Hall, at 2.30pm and led by Rev J Hurd.

Clwb Cerdded Tregaron Walking Club

THE next walk is on 12 March and is called ‘Tregaron Circular’. The leaders are Aled and Teleri Garner, 01974 298734. A pleasant circular walk starting at Y Talbot, Tregaron Square, it crosses the Rivers Brenig and Teifi at two different points and an old railway bridge on Gipsy Lane. Walkers are almost certain to see red kites and, if lucky, a heron on the banks of the Teifi. There are great views across Tregaron and towards Cwm Berwyn and the Cambrian Mountains; and there will be a chance to take in the beautiful scenery of Cors Caron (the largest peat bog of its kind in Western Europe) from the disused bridge of Pont Einon. A small section can be boggy and gaiters are advisable. The walk is graded a grade A Easy walk, a four-miler which should last two and a half hours. Meet at 10am outside Y Talbot.To join the club call the secretary Dafydd on 01974 298150.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa ddydd Sul, 13 Mawrth am 5yp dan ofal y Parch Morris Pugh Morris.

Oedfa Deuluol

AR FORE Sul y Mamau croesawyd y gynulleidfa i’r Oedfa Deuluol gan y Parch Carwyn Arthur. Bu’r plant wrth eu bodd yn gwylio’r Bugail yn dangos un arall o’i driciau gyda darn o bren, rhaff a rhubanau lliwgar. Roedd pob rhuban a glymwyd ar y rhaff yn ar-wyddocad o’n ffaeleddau, ac yn y diwedd dyma fe yn troi’r darn pren i siâp croes. Daeth pob rhuban yn rhydd o’r rhaff, ac eglurodd fel y bu Crist farw trosom ar y groes a maddau ein pechodau. Rhoddwyd yr emynau allan gan Elen Rooke, Gethin a Dafydd Bennett, ac offrymwyd gweddi gan Malen Jenkins. Adroddwyd adnodau allan o Salm 23 a chafwyd eitem swynol iawn gan y plant yn canu ‘Yr Oen di-fai’. Casglwyd gan Carys Down ac Anthony Rooke, a diolchwyd i’r plant am wneud eu gwaith mor dda gan Gareth Jones.

Merched y Wawr

AR NOS Fercher 2 Mawrth roedd awyrgylch hyfryd yn y Neuadd Goffa i ddathlu Gwyl Ddewi, a chroesawyd yr aelodau gan Ann Morgan, y llywydd. Cofiwyd am bawb oedd yn anhwylus a chydymdeimlwyd gyda’r aelodau fu mewn profedigaeth. Ar nodyn hapusach llongyfarch-wyd Catherine a Jim Williams ar ddathlu Priodas Ruddem yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Ann Davies a Marged Ann Rees am en-nill yr ail wobr yn chwarae chwist yn y rownd ranbarthol, a dymunwyd yn dda iddynt pan fyddant yn cystadlu yn y Chwaraeon Cenedlaethol a gynhelir ym Machynlleth ym mis Mai.Offrymwyd gras gan Ann, cyn mynd ymlaen i fwynhau cawl hyfryd, tarten afalau a phice ar y maen. I ddilyn aeth Ann ymlaen i groesawu a chyflwyno Bois y Rhedyn a Delyth Lloyd Jones, a oedd yng ngofal yr adloniant. Dyma barti bechgyn dawnus iawn, sy’n brysur yn mynd o amgylch i ddiddanu’r gwahanol gymdeithasau. Maent yn cystadlu mewn eisteddfodau, a daethant yn fuddugol yn Eisteddfod Swyddffynnon eleni. Nos Fercher, 6 Ebrill, am 7.30yh yn y Neuadd Goffa cynhelir Noson Agored yng nghwmni Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru. Croeso cynnes i bawb.