Clwb Cerdded

THE NEXT walk is scheduled for 23 April and is called Trawsgoed/Llanafan Circular, organised for the group by Devil’s Bridge Walking Club, with leader Robert Davies (01970 890208). This walk begins from the Black Covert Car Park, Trawsgoed (SN667728) and the route takes a riverside path alongside the River Ystwyth, then through areas of forest before crossing the river and circling back to Llanafan.The return is on paths taking us past the 17th century country house of Trawsgoed mansion, formerly the seat of the Earl of Lisburne. The walk is graded a grade A easy walk which should last approximately three hours and is over a distance of six miles.The meeting point is at the Black Covert Car Park, Trawsgoed, at 12.15pm.If you would like to become a member of the club then call Dafydd, the secretary, on 01974 298150.Capel BwlchgwyntCYNHELIR Gymanfa Ganu Glannau Teifi ac Aeron yn y capel ddydd Sul, 24 Ebrill, am 3yp a 6yh. Yr arweinydd fydd Elonwy Davies ac estynnir croeso cynnes i bawb.Cymdeithas HanesCAFWYD noson ardderchog ddiwedd mis Mawrth yn ein dathliad Gwyl Ddewi.Cafwyd pryd da o gawl a tharten neu bwdin reis, pice bach a phaned yn y clwb rygbi a diolch i Glenys a’r merched am ofalu amdanom cystal.Ar ôl y wledd cyflwynwyd siaradwr gwadd y noson i ni gan y cadeirydd Marged Philips. Daeth Keith Bush, Caerdydd, nôl i Dregaron i siarad am wraig nad oedd yn adnabyddus i ni, ond un a fu yn Nhregaron tua dwy ganrif yn ôl. Hester Stanhope oedd ei henw, gwraig gefnog o swydd Kent – merch yr Iarll a’r Iarlles Stan-hope. Bu’n gweithio yn Rhif 10 Downing St pan oedd William Pitt yn brifweinidog. Ar ôl gorffen yno penderfynodd fynd ar daith i Orllewin Cymru – croesi i Gasgwent ac i fyny gyda’r afon Gwy i Lanelwedd. Bu’n sefyll fan hyn am dipyn, cyn teithio dros Abergwesyn ac i Aberystwyth ac ymlaen i Dregaron cyn troi nôl i Lanelwedd. Roedd yn fenyw flaengar – hi oedd yn mar-chogaeth ac yn arwain y fintai fach o ddilynwyr oedd ganddi. Tybir iddi aros ym mhlasau’r ardal, Traw-sgoed neu Nanteos, a digon posib, er nad oes prawf, yn Sunnyhill, Tregaron, gan mai i stâd Nanteos y perthynai ar y pryd. Un o’i dilynwyr oedd Thomas Price o Sir Frycheiniog, dyn a ddaeth yn enwog fel gw-ladgarwr, clerigwr Anglicanaidd a llenor. Yr hyn sy’n ddiddorol yw iddo fabwysiadu fel ei enw barddol yr enw Carnhuanawc. Y ddamcaniaeth oedd gan Keith Bush oedd mai efallai yn Nhregaron, yn Sunnyhill, y ca-fodd yr enw, gan mai dyna’r hen enw ar y Garn, sef Carn + heulog. Damcaniaeth ddiddorol felly! Aeth Hester ymlaen ar ôl ei thaith i Orllewin Cymru, i Syria, ac yno yn Palmyra y treuliodd gweddill ei hoes ac yno y’i claddwyd.Bu’n ddarlith ddiddorol a dysgedig gydag ôl llawer o ymchwil a diolchwyd yn gynnes i Keith Bush gan Anne Gwynne.

English Methodist Church

THE SERVICE on Sunday, 24 April, will be held in the Memorial Hall at 2.30pm and led by Fiona Smith. A very warm welcome to all.

Clwb Cinio

THE NEXT lunch club will be on Wednesday, 27 April, in the Bowls Club. Call Delyth (01974 298593) to book a place.