Eglwys

AR DDYDD Sul olaf y mis, sef y pumed Sul, cafwyd gwasanaeth arbennig Pawb Ynghyd yn Eglwys Tregroes, gyda hyn yn gyfle i ddathlu Dydd Santes Ffraid a hefyd Cyflwyniad Crist.Da oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd ac yn cymryd rhan. Diolch Rhian Jones i wrth yr organ ac i bawb am bob cymorth a chefnogaeth.

Meal

ANOTHER lovely and enjoyable meal was served at the hall.

Pwyllgor Lles

BYDD yna noson o Ganu Cynulleidfaol yn Eglwys Tregroes ar nos Sul, 10 Ebrill am 7.30yh.

Hanes

CYNHELIR noson o ffilmiau Hanes Tregroes yng nghwmni Alun Griffiths, Birdlup ar nos Wener, 12 Chwefror am 7.30yh. Mynediad yn £3 yn cynnwys lluniaeth.Dewch i ymuno â ni.