Cynhaliwyd Diwrnod Maes CFfI Ceredigion ar Fferm Trawscoed, Abermagwr diwedd mis Hydref.

Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y deuddydd, sef dydd Sul, 8 Hydref a dydd Sadwrn, 14 Hydref, wrth i 16 o glybiau’r sir gymryd rhan, gyda dros 200 o aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau.

Bu clybiau yn cystadlu yn y cystadlaethau Sialens ATV, Arddangosfa Ciwb, Arwerthu, Ffensio Iau a Hŷn, Fferm Ffactor, Addurno Coeden Nadolig, Creu Carden Nadolig, Torri Cyw Iâr, Trimio Oen, Treialon Cwn Defaid, Sgiliau Fferm a Gyrru Tractor, gan sicrhau digon o amrywiaeth yn ystod y dydd.

Canlyniadau

  • Stocmon y Flwyddyn, Cwpan Her Cefnmaes: 1, Rebeca James, Llanddewi Brefi; 2, Dewi Davies, Llanddeiniol; 3, Cerys Thomas, Llanwenog; 4, Eiry Williams, Llangwyryfon.
  • Tîm dan 28, Cwpan Her Teulu Moelifor: 1, Llanddewi Brefi; 2, Llanwenog; 3, Llangwyryfon.
  • Beirniad Stoc y Flwyddyn, 18 oed ac iau, Cwpan Trevor Davies a’r Teulu: 1, Ynyr Siencyn, Talybont; 2, Rhys Jones, Mydroilyn; cydradd 3, Jane Davies, Llangwyryfon ac Efa Williams, Mydroilyn.
  • Tîm dan 18, Cwpan Her Pantyrhendy: 1, Mydroilyn; 2, Llangwyryfon; 3, Talybont.
  • Beirniad Stoc y Flwyddyn, 14 oed ac iau, Cwpan Her Ffosyfuwch: 1, Buddug Jones, Tregaron: 2, Tomos Dalton, Felinfach; 3, Lottie Clarke, Pontsian; 4, Siencyn Hughes, Llangwyryfon.
  • Tîm 14 oed ac iau, Cwpan Her Fron: 1, Pontsian A; 2, Llangwyryfon A; 3, Penparc A. Arddangosfa Ciwb: 1, Llangeitho; 2, Llangwyryfon; 3, Felinfach.
  • Sialens ATV, Cwpan Mid Ceredigion ATB Group: 1, Tregaron; 2, Llanddeiniol; 3, Lledrod.
  • Gyrru Tractor a Loader, Tarian Coffa John Bowman: 1, Dafydd Eynon, Penparc; 2, Ifan Davies, Trisant; 3, Rhodri Griffiths, Llangwyryfon.
  • Arwerthu: 1, Efan Evans, Pontsian; cydradd 2, Dylan Morris, Llangwyryfon a Meleri Morgan, Llangeitho.
  • Creu Carden Nadolig: 1, Leisa James, Lledrod; 2, Teleri Evans, Llanwenog; 3, Ffion Jones, Llangeitho.
  • Addurno Coeden Nadolig: 1, Trisant; 2, Llanwenog; 3, Pontsian.
  • Fferm Ffactor, Cwpan Her IBERS: 1, Talybont; 2, Felinfach; 3, Tregaron.
  • Ffensio Iau: 1, Llanwenog; 2, Penparc; cydradd 3, Mydroilyn a Pontsian.
  • Ffensio Hŷn, Cwpan Cilerwisg: 1, Trisant.
  • Torri Cyw Iâr: 1, Angharad Evans, Mydroilyn; 2, Angharad Davies, Trisant; 3, Gwenllian Wilson, Penparc.
  • Trimio Oen, Cwpan Her Meinir a Sioned Green, Nantgwyn: 1, Rhys Williams, Llanwenog; 2, Sian Downes, Llangeitho; 3, Ilan Hughes, Trisant.
  • Sgilliau Fferm, Tarian Bant ar Cart: 1, Penparc; 2, Llangwyryfon; 3, Llanddeiniol.
  • Fideo i Hyrwyddo’r Ffair Aeaf: 1, Pontsian; 2, Llangwyryfon; 3, Seren Hughes, Trisant.
  • Treialon Cŵn Defaid: 1, Sion Davies, Tregaron; 2, Andrew Davies, Llanddewi Brefi; 3, Ifan Morgan, Penparc.

Ar ddiwedd y cystadlu fe ddaeth tri clwb i’r brig i rannu Cwpan Her Pantlleinau, sef clybiau Llangwyryfon, Llanwenog a Trisant.

Dymuna CFfI Ceredigion ddiolch i bawb a fu ynghlwm â Diwrnod Maes y Sir, drwy feirniadu, menthyg offer a stoc, cyfrifwyr ac yn stiwardio gydol y dydd. Diolch yn arbennig i Fferm Trawscoed am ganiatau y Diwrnod Maes ac i Gegin Cwm Gwaun am ddarparu bwyd ar y diwrnod. Gwerthfawrogwn gymorth pawb yn fawr iawn.

Bydd enillwyr y cystadlaethau yma yn cynrychioli Ceredigion yn awr yn y Ffair Aeaf ar 27 a 28 Tachwedd ac yn Niwrnod Maes Cymru a fydd yn cymryd lle ar 27 Ebrill ym Maesyfed.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]