Henoed

CROESAWYD pawb o Glwb y Pensiynwyr i gyfarfod prynhawn Iau, 5 Tachwedd gan y cadeirydd, Eluned Parry. Anfonwyd cofion at Beti Rowlands sydd ym Mhlas Hafan, Nefyn ar hyn o bryd, Ela Jones a Gwen Parry sydd yn Ysbyty Bryn Beryl, ac amryw oedd yn absennol oherwydd anhwylder iechyd. Darllenwyd y cofnodion ac yna croesawyd a chyflwynwyd y gwraig wadd, sef Sian Hughes, Garndolbenmaen.

Nyrs oedd Sian Hughes wrth ei galwedigaeth cyn ymddeol, a chafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddi am ei gwaith mewn amrywiol lefydd a sefyllfaoedd.

Diweddodd ei gyrfa cyn ymddeol yng Nghanolfan Iechyd Cricieth. Mawr fwynhawyd ei sgwrs a diolchwyd yn gynnes iddi ar ran pawb gan Megan Roberts. Gofalwyd am y baned gan Gwenda Owen ac Aeronwy Jones. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Eluned Parry a’r enillydd oedd Eluned Roberts.

Diolchwyd i bawb gan y cadeirydd am bnawn hwyliog dros ben.Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar, penderfynwyd newid diwrnod y cyfarfodydd o bnawn Iau i bnawn Mawrth cyntaf bob mis.Etholwyd swyddogion am y flwyddyn fel a ganlyn: cadeirydd, Eluned Parry; trysorydd, Ieuan Jones; ysgrifennydd, Iola Jones; ysgrifenyddion cofnodion, Kathleen Roberts a Margaret Williams. Trefnwyd hefyd i gael y cinio Nadolig ym mis Rhagfyr yng Ngwesty Fictoria, Porthaethwy ac ymweld wedyn â Phlanhigfa Holland Arms a siop Pringles. Mwy o fanylion i ddilyn.Gan nad oes cyfarfod ym mis Ionawr bydd y cyfarfod nesaf prynhawn Mawrth, 2 Chwefror pryd y disgwylir Alun Jones, Chwilog y wr gwâdd. Cynhelir y cyfarfodydd yn festri Ebeneser gan ddechrau am 1.30yp ac mae croeso cynnes iawn i aelodau newydd ymuno.