Henoed
CROESAWYD pawb i gyfarfod cyntaf y flwyddyn brynhawn Mawrth, 2 Chwefror, gan y llywydd, Eluned Parry.Croesawyd Betty Rowlands yn ei hôl a derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Nan Roberts, Brenda Jones Roberts, Sally Evans a Katy Jones. Anfonwyd cofion at y rhai oedd yn wael eu hiechyd.Siaradwr gwadd y prynhawn oedd Alun Jones, Chwilog.Cafwyd sgwrs ddifyr iawn ganddo am ei gefndir amaethyddol gan gyfeirio at y cysylltiad gyda llenyddiaeth yr ardal lle magwyd ef, sef Llanpumsaint, Sir Caerfyrddin.Yn gyn-athro mae bellach yn olygydd Gwasg y Lolfa. Cyfeiriodd at ei fagwraeth ym ‘40au y ganrif ddiwethaf cyn dyfodiad y peiriannau a’r newidiadau sydd i law erbyn hyn a darllenodd rannau o waith tri prifardd.Diolchwyd yn gynnes iddo gan Kathleen Roberts.Diweddwyd y prynhawn gyda phaned dan ofal Eluned Parry a Megan Roberts. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Eluned Roberts a’r enillydd oedd Megan Roberts.Bydd y cyfarfod nesaf brynhawn Mawrth, 1 Mawrth, ac mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno. Swyddogion y clwb am eleni yw: llywydd, Eluned Parry; trysorydd, Ieuan Jones; ysgrifennydd, Iola Jones.
Oedfa
PREGETHIR yng Nghapel Ebeneser y Sul yma, 14 Chwefror, am 11.15yb gan y gweinidog, y Parch R O Roberts, Morfa Nefyn. Gweinyddir y Cymun.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.